Gwneir archwiliadau rheolaidd gan oruchwylwyr Strydlun ar droetffyrdd a ffyrdd i gerbydau.
Gwneir hefyd archwiliadau ad hoc o briffyrdd pan fydd aelodau o’r cyhoedd, cynghorwyr ac ati yn rhoi gwybod am broblemau.
Bydd ymwrthedd i lithradau’n cael ei fesur gan SCRIM (Peiriant archwilio arferion grym cyfernod o’r ochr) yn unol â HD 28/94, Ymwrthedd Llithradau'r cyfeirlyfr dylunio ar gyfer ffyrdd a phontydd. Cwblheir arolygon bob tair blynedd ar ffyrdd dosbarth A a B i’r ddau gyfeiriad. Fel rheol cwblheir yr arolygon gan gontractwyr allanol.
Yn bennaf, mae cynnal a chadw adweithiol yn ymwneud â gwella sefyllfaoedd perygl fel y dônt i’r amlwg.
Mae sefyllfaoedd perygl, megis tyllau sy’n ddyfnach na 50mm ar ffyrdd i gerbydau a dyfnach na 25mm ar droetffyrdd a llwybrau beicio yn cael eu trwsio o fewn 72 awr.
Yn gyffredinol mae’r rhain yn atgyweiriadau i ffyrdd, troetffyrdd, systemau draenio, ffensys ac ati.
Y tu hwnt i ardaloedd a gyfyngir i 40 mya bydd glaswelltir yn cael ei dorri o 1 fetr i ymyl y briffordd, ddwywaith y flwyddyn gan ddechrau ym mis Mai. Bydd y glaswellt yn cael ei dorri i tua 75mm mewn uchder. Bydd hefyd pedair rhaglen i gael gwared ar laswellt sydd o amgylch gwaith haearn ac ati.
Bydd gwaith strimio yn cael ei gwblhau mewn lleoliadau gwledig a benderfynwyd arnynt eisoes ar sail diogelwch h.y. gweld ger cyffyrdd a lle bydd torri’r glaswellt â thractor yn anymarferol. Bydd glaswellt yn cael ei strimio i uchder o tua 75mm. Mae pedair rhaglen fisol sy’n dechrau ym mis Mai.
Bydd y gwaith torri glaswellt trefol (o fewn y cyfyngder 40 mya) a thacluso rhai mynedfeydd pwysig megis y gyffordd i’r A541 Ffordd yr Wyddgrug yn cael ei wneud gan Adran yr Amgylchedd.
Mae Strydlun yn gwneud y gwaith rheoli chwyn ar bob un o’r priffyrdd.
Bydd llystyfiant sy’n amharu ar oleuadau stryd a goleuadau traffig yn cael ei docio.
Bydd pob gwter (oddeutu 30,000) yn cael eu glanhau unwaith y flwyddyn a bydd y rheiny mewn safleoedd sy’n dioddef llifogydd yn cael eu glanhau ddwywaith y flwyddyn.
Bydd ardaloedd sydd angen rhagor o waith yn cael eu nodi a’u cynnwys ar raglen ffrydio.
Cynhyrchir atodlenni sy’n dangos manylion glanhau cwteri yn ôl y mis a’r gymuned.
Bydd gorchuddion tyllau archwilio, fframiau gwteri a gwaith haearn arall yn cael eu hailosod os ydynt yn rhy uchel neu rhy isel.
Ceir rhaglenni blynyddol ar gyfer gwaith megis ail-wynebu ffyrdd, ail-wynebu/ail-lunio troetffyrdd a gwaith i wella draeniad.