
Mae Adran yr Amgylchedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gyfrifol am dros 12,000 o oleuadau stryd. Mae hefyd yn gyfrifol am arwyddion traffig sydd wedi eu goleuo.
Nid yw’r Cyngor Sir yn berchen ar bob golau stryd. Mae cynghorau cymuned neu gynghorau tref yn y Fwrdeistref Sirol yn berchen ar rhai goleuadau. Rydym yn cynnal a chadw goleuadau ar ran nifer o’r cynghorau cymuned.
Gellir rhoi gwybod am oleuadau sydd ddim yn gweithio yn y ffyrdd canlynol:-
Pan fyddwch yn rhoi gwybod am olau stryd diffygiol, a fyddech cystal â chynnwys yr wybodaeth ganlynol os yn bosib:
Bydd angen camau brys i ddatrys y canlynol:
Mae amser ymateb y cyngor i’r diffygion fel a ganlyn:
Yn aml bydd diffygion ar oleuadau stryd o ganlyniad i ddim trydan. Mae rhan fwyaf y goleuadau stryd yn cael trydan o’r prif gyflenwad. Bydd y Cyngor yn rhoi gwybod am y diffygion hyn i’r cwmni trydan. Rheolir amser ymateb i ddiffygion i’r cyflenwad trydan gan gytundeb cenedlaethol rhwng y Swyddfa Nwy a’r Marchnadoedd Trydan (OFGEM) a chwmnïau dosbarthu’r trydan. Mae targedau perfformio ymateb y cwmnïau trydan fel a ganlyn:
| Gwasanaeth | Perfformiad |
|---|---|
| Atgyweirio ac ymateb i ddiffyg brys | Mynd i'r safel o fewn 2 awr |
| Atgyweirio diffyg pwysig – goleuadau traffig | 2 ddiwrnod |
| Atgyweirio diffyg pwysig – goleuadau nad ydynt yn rheoli traffig | O fewn 10 diwrnod gwaith |
| Atgyweirio diffygion aml-uned | O fewn 20 diwrnod gwaith |
| Atgyweirio diffyg uned sengl | O fewn 25 diwrnod gwaith |
Mae atgyweirio diffyg pwysig yn ddiffyg a ystyrir i fod yn un brys, er enghraifft lleoliad lle ceir damweiniau’n aml, cyffordd ar ffordd bwysig neu ardal sydd â phryderon am drefn gyhoeddus. Mae’r categori hwn i’w ddefnyddio â gofal gan gynghorau wrth roi gwybod am ddiffygion cyflenwad.