|
Croeso i adran Reilffordd gwefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a luniwyd i ddisgrifio rôl y Cyngor wrth ddarparu gwasanaethau trên. Mae geiriau sydd wedi eu tanlinellu yn yr adran hon yn caniatáu mynediad i dudalennau eraill a gwefannau allanol.
Network Rail (cyswllt allanol) sy’n berchen ac yn gweithredu isadeiledd rheilffordd (llinell a gorsafoedd) ar ran Yr Adran Gludiant (cyswllt allanol). Mae etholfraint rheilffordd Cymru (hefyd yn ymgorffori llawer o siroedd y gororau) yn cael ei reoli gan Lywodraeth Cynlliad Cymru (cyswllt allanol), darperir y gwasanaethau trên ar hyn o bryd gan Arriva Trains Wales (cyswllt allanol). Mae gan Wrexham - Amwythig (cyswllt allanol)drwydded i weithredu gwasanaethau uniongyrchol o Wrecsam i Lundain Marylebone.
Mae’r gorsafoedd o fewn y Fwrdeistref Sirol ar les gan Network Rail i Trenau Arriva Cymru sy’n eu gweithredu a’u cynnal a chadw.
Er nad yw Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn noddi’r un o’r gwasanaethau trên mae’n gwneud gwelliannau mewn gorsafoedd gan defnyddio Grant Cludiant drwy Taith (cyswllt allanol), consortiwm cludiant rhanbarthol sy’n cynnwys chwech awdurdod lleol gogledd Cymru. Mae gwelliannau hanesyddol yn cynnwys datblygu’r ymgyfnewid Bws/Rheilffordd a chyfleusterau parcio gwell yng ngorsaf Rhiwabon.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn aelodau brwd o Bwyllgor Cyswllt Llinell Caer-Amwythig, Grŵp Llywio’r Gororau a’r Mersey Dee Alliance (cyswllt allanol), sydd wrthi’n ceisio gwella gwasanaethau rheilffordd ac isadeiledd.
Pob Gorsaf Reilffordd
|