Teithio Rhatach ar y Rheilffyrdd i Bobl Hŷn

Mae Cardiau Rheilffordd i Bobl Hŷn i’r rhai dros 60 oed ar gael am bris gostyngol i drigolion Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae’r Bwrdd Gweithredol wedi rhoi sêl bendith ar y fenter, gan annog pobl dros 60 oed i fanteisio ar gostau rhatach i deithio ar y trên ledled Prydain.

Gellir prynu Cardiau Rheilffordd i Bobl Hŷn am £24.50, yn hytrach na’r pris arferol o £28.00. Mae’r cerdyn yn ddilys am 12 mis o ddyddiad ei roi ac mae’n rhoi gostyngiad o 1/3 ar y mwyafrif o brisiau teithio safonol a dosbarth cyntaf.

Gellir prynu Cardiau Rheilffordd i Bobl Hŷn gan Galw Wrecsam, 16 Stryt yr Arglwydd, Wrecsam (ger yr Orsaf Fysiau).

Er mwyn prynu Cerdyn Rheilffordd i Bobl Hŷn rhaid i ymgeiswyr ddarparu:

  • Prawf eu bod yn byw yn y Fwrdeistref Sirol
  • Prawf o’u hoedran

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Llinell Wybodaeth Cludiant Cyhoeddus Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar 01978 266166, ewch i’r swyddfa gwybodaeth am fysiau yn yr orsaf fysiau neu ewch i Galw Wrecsam, 16 Stryt yr Arglwydd, Wrecsam.

yn ôl i'r brig