Gorsaf Gyffredinol Wrecsam

Mae gwasanaeth trên bob awr rhwng Caer ac Amwythig o Orsaf Gyffredinol Wrecsam gan ymestyn bob yn ail awr i Gaergybi yn y gogledd a Chaerdydd neu Birmingham yn y de, o 05.30am hyd hanner nos dydd Llun i ddydd Sadwrn gyda gwasanaeth wedi ei gwtogi ar ddydd Sul. Mae trenau i Gaer a Chaergybi yn gadael o Blatfform 2 ac mae trenau i’r Amwythig, Birmingham a Chaerdydd  yn gadael o Blatfform 1. Mae gwasanaethau’r Gororau yn gweithredu bob awr drwy’r dydd, gyda gwasanaeth min nos cyfyngedig o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, yn gadael o Blatfform 4. Mae mynedfa i’r anabl i Blatfform 1 a 2 yn bosibl o’r ffordd at yr orsaf drwy’r brif fynedfa neu’r fynedfa nos. Mae ramp o Ffordd Yr Wyddgrug yn darparu mynediad gwastad at Platfform 4.

Mae gwasanaethau uniongyrchol i:

  • Gaer
  • Caergybi ac Arfordir y Gogledd
  • Yr Amwythig
  • Birmingham - New Street
  • Birmingham - International (ar gyfer Maes Awyr Birmingham a'r NEC)
  • Caerdydd
  • Llundain (Euston)
  • Glannau Dyfrdwy a Bidston (cyswllt allanol) (am Lerpwl a rhwydwaith Merseyrail)

Cysylltiadau yng Nghaer i:

  • Crewe
  • Llundain (Euston)
  • Manceinion
  • Lerpwl

Cysylltiadau yn Yr Amwythig i:

  • Caerdydd
  • Aberystwyth ac arfordir Cambria
  • Llinell Calon Cymru i Abertawe
  • Birmingham

Gweler map o Gorsaf Gyffredinol Wrecsam

Cyfleusterau

Mae Wrecsam Gyffredinol yn orsaf gyda staff a phan mae'r swyddfa docynnau ar agor dylid prynu tocynnau cyn mynd ar y trên.

Cyfleusterau Oes/Nac Oes Gwybodaeth Bellach
Sgriniau Gwybodaeth I Gwsmeriaid Oes  
Swyddfa Docynnau Oes Wedi ei lleoli ger y fendfa i Platfform 1 Ffordd at yr orsaf oddi ar ffordd Yr Wyddgrug.
Mynedfa i'r anabl I Blatfform 1, 2 a 3 yn unig Mynediad i'r anabl i Platfform 4 (Wrecsam - Bidston - Llinell Lerpwl) mynedfa ar lwybr ar hyd Ffordd Yr Wyddgrug.
Toiledau Oes  
Lluniaeth Oes Oriau Agor: 6.00am - 6.00pm
Ffôn Oes Ffôn talu yn y maes parcio.
Cylfeusterau Beicio Oes Raciau beiciau mynedfa tu allan.
Parcio Ceir Oes

Talu ac Arddangos
Rheolir gan MPC (NCP)
64 gofod
Yn cynnwys 4 bae i'r anabl

Gwybodaeth mwy am parcio - Wrecsam Gyffredinol

Tacsi Oes Swyddfa cwmni tacsi yn y maes parcio. mae cwmnïau tacsi eraill yn gwasanaethu'r orsaf hon.
Cyswllt Bws - Rheilffordd Oes

Gwasanaethau bws yn galw yn y Gyfnewidfa rhwng Bws a Thrên

Gorsaf Fysiau o fewn 7 munud ar ddeudroed. Gwasanaethau bws eraill yn mynd heibio’n agos at yr orsaf:

Gwybodaeth Bellach

Byrddau Gadael Byw (cyswllt allanol)

Amserlenni Bws

yn ôl i'r brig