Os ydych yn yrrwr car, gallwch fod eisiau ystyried cymryd prawf gyrru Sefydliad y Gyrwyr Uwch, ar ôl cael cyfarwyddyd grŵp lleol.
Mae Isadran Diogelwch ar Ffyrdd Wrecsam wedi neilltuo rhan o’i Grant Diogelwch Ffyrdd Lleol oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru i annog gyrwyr ifanc i gymryd eu prawf gyrru uwch. Os ydych yn 17 i 25 oed ac yn byw yn Wrecsam, gallwch wneud cais i gymryd eich prawf drwy Grŵp Modurwyr Uwch Caer a Wrecsam ac efallai y gallwch gael ad-daliad o’r ffi am y prawf os llwyddwch ei gwblhau. Mae amodau’n berthnasol. I gael manylion llawn, cysylltwch â’r Grŵp Gyrwyr Uwch Caer a Dwyrain Clwyd (cyswllt allanol).
Os ydych dros 55 oed, gallwch dalu i’r Sefydliad i gael asesiad un awr Cadarnhau Gyrru. Nid prawf mo hwn ond bwriadwyd iddo fod yn gwrs gloywi, ar gyfer y gyrwyr hynny gyda llawer blwyddyn o brofiad gyrru.
Byddai Grŵp Gyrwyr Uwch Caer a Dwyrain Clwyd (cyswllt allanol) yn croesawu eich diddordeb.