Cyrsiau Bikesafe a FBoS


 

Diolch i gyllid sydd ar gael i’r Grŵp Diogelwch ar Ffyrdd Gogledd Cymru, mae gweithdai Bikesafe (gwerth £100) AM DDIM i drigolion y Gogledd – ond bod lleoedd ar gael a hyd nes bydd yr arian wedi’i wario i gyd. Mae’r cwrs hwn yn anelu at feicwyr modur, sydd wedi llwyddo eu prawf reidio.

Gall beicwyr gadw lle naill ai ar gwrs 2 ddiwrnod "Sgiliau Rheoli Beic Modur ar y Ffordd", sy’n cynnwys sesiwn dan do ac asesiad / arddangosiad reidio ymarferol NEU weithdy Bikesafe a chwrs FBoS AM DDIM.

Ystyr FBoS yw Beic Cyntaf i Gyrraedd ac mae’n caniatáu i feicwyr gael cyfarwyddyd ar Gymorth Cyntaf cysylltiedig â beiciau modur. I gael rhagor o wybodaeth, ymwelwch ag Bikesafe - Heddlu Gogledd Cymru (cyswllt allanol / Saesneg yn unig).

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01492 804155 neu e-bostio psdbikesafe@nthwales.pnn.police.uk.

yn ôl i'r brig