Mae pobl sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam yn gallu cofrestru eu plant tair oed yng Nghlwb Traffig y Plant. Mae aelodaeth am ddim, diolch i Grant Diogelwch ar y Ffyrdd a roddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Trwy’r Clwb mae plant yn derbyn cyfres o chwe llyfr drwy’r post, sy’n dangos iddynt sut i aros yn ddiogel pan fyddant allan yn cerdded neu’n teithio mewn car. Mae’r llyfrau ar gael naill ai yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Nid clwb llyfr yw hwn ond ffordd hwyliog i blant ddysgu mwy am ddiogelwch ar y ffyrdd.
Fel rhan o’r clwb, caiff cystadlaethau am ddim eu cynnal weithiau, gyda gwobrau fel crysau ti a llyfrau lliwio. Ar wefan Clwb Traffig y Plant, mae gemau diogelwch ar y ffyrdd i blant eu chwarae a deunyddiau eraill ar werth hefyd. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ymrwymiad i brynu dim o gwbl i blant fod yn aelodau o’r clwb.
I gael ffurflen gofrestru, cofiwch gysylltu â ni, neu ffonio’r cwmni sy’n rhedeg y Clwb yn uniongyrchol ar 0870 010 4440 neu e-bostio info@TrafficClub.org.
I gael rhagor o fanylion ymwelwch ag gwefan Clwb Traffig.