Mae’r tîm Diogelwch ar y Ffyrdd yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Gwasanaeth Tân ac Achub i hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd. Felly, pan gynigiodd Gwylfa Wen yng Ngorsaf Dân Wrecsam syniad Sioe Deithiol Drawiadol, rhoddodd Isadran Diogelwch ar y Ffyrdd gymorth ariannol i gynorthwyo ei gweithredu. Roedd modd gwneud hyn trwy neilltuo rhan o Grant Diogelwch Ffyrdd Lleol y Cyngor iddynt, sy’n dod oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru. Rhoddwyd dymis tebyg i fywyd mewn car a fu mewn damwain ar y ffordd a’u halio ar stondin symudol i amrywiaeth o ysgolion, colegau a safleoedd eraill, i wneud gyrwyr yn ymwybodol o ganlyniadau gwrthdrawiadau ar y ffordd. Bydd criw tân yn sgwrsio â disgyblion, gyrwyr ifanc a’r cyhoedd i gyfleu negeseuon diogelwch allweddol, fel manteision gwisgo gwregysau diogelwch a pheidio â defnyddio ffonau symudol. Bydd staff o’r tîm Diogelwch ar y Ffyrdd yn cyfrannu at rai o’r sesiynau hyn hefyd.
Erbyn hyn ailadroddwyd y syniad ar hyd a lled Cymru a chaiff ei gyfeirio ato fel C.S.I. Cymru (sef Crash Scene Incident). Derbyniodd ei symbylydd, Andy Williams, wobr Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am ei ran yng nghreu’r cynllun a’i wneud yn llwyddiant.