Ein nod yw rhoi Hyfforddiant Beicio i ddisgyblion Blwyddyn 6 ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol. Hyd at fis Hydref 2009, cyflwynwyd yr hyfforddiant trwy un o ddau ddull:
O fis Mawrth 2010 ymlaen, bydd y cynllun hyfforddiant traddodiadol yn cael ei derfynu. Bydd Hyfforddiant Safon Genedlaethol Lefel 1 yn cael ei gynnig yn ei le i’r ysgolion hynny oedd yn arfer dilyn y cynllun traddodiadol. Bydd Lefelau 1 a 2 yn dal i gael eu cynnig i’r ysgolion hynny gyda safleoedd hyfforddi addas ar y ffordd.
Fel arfer mae hyfforddiant yn cael ei gyflwyno yn ystod tymor yr Haf neu hanner cyntaf tymor yr Hydref (gan orffen erbyn hanner tymor mis Hydref). Fel arfer bydd cyrsiau’n para rhwng 7 ac 8 awr a chaiff yr amserlen ei chytuno rhwng yr ysgol ac Isadran Diogelwch ar y Ffyrdd.
Er mwyn i blant gymryd rhan yn yr hyfforddiant hwn, rhaid iddynt fod â beic addas i’r ffordd fawr o’r maint cywir a helmed feicio’n cael ei gwisgo’n gywir. Hefyd, rhaid iddynt eisoes fod yn gallu reidio beic gan fod y cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddysgu iddynt sut i ddod yn ddefnyddwyr diogel y ffyrdd yn hytrach na chanolbwyntio’n gyfan gwbl ar allu reidio.
Fel mae ei enw’n awgrymu, hyfforddiant beicio safon genedlaethol yw, rhaglen hyfforddi gydnabyddedig ledled y wlad gyda maes llafur a chanlyniadau diffiniedig. Mae’n cael ei gyfeirio ato fel Bikeability yn y wasg yn aml, gan mai dyma enw brand y DU ar y cynllun. Gall awdurdodau lleol ddewis gwneud cais i gofrestru os oes ganddynt hyfforddwyr gydag achrediad cenedlaethol. Oherwydd bod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam hyfforddwyr erbyn hyn gydag Achrediad Safon Genedlaethol, bydd yn edrych ar fanteision cofrestru yn y dyfodol.