Dramâu Diogelwch ar y Ffyrdd a gweithgaredd arall trwy Grantiau


Hawlfraint
Jugglestruck Productions

Yn ogystal â rhai o’r prosiectau a ddisgrifiwyd uchod, byddwn hefyd yn defnyddio’r Grant Diogelwch Ffyrdd Lleol ar gyfer prosiectau eraill. Fel hyn, rydym yn gallu targedu grwpiau amrywiol defnyddwyr ffyrdd, fel y bo’n briodol.

Er enghraifft, talwyd i gwmnïau theatr addysg berfformio dramâu diogelwch ar y ffyrdd gyda thema i ddisgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau cyflwyno yn ôl y gynulleidfa.

Rydym hefyd wedi darparu deunyddiau addysgol i ysgolion i gynorthwyo cyflwyno Diogelwch ar y Ffyrdd. 

Targedwyd gyrwyr a cherddwyr trwy hysbysebu ar y radio ac ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd.

Bob blwyddyn, byddwn yn ystyried pa grwpiau defnyddwyr ffyrdd i’w targedu a sut, bob amser yn cynnal ein hymdrechion i leihau anafusion ymhlith defnyddwyr mwyaf clwyfadwy’r ffyrdd (fel gyrwyr ifanc a beicwyr modur).

yn ôl i'r brig