Diogelwch ar y Ffyrdd yn y Blynyddoedd Cynnar

 
 
 

Caiff plant ifanc eu dysgu sut i ddefnyddio’r Hebryngwr Croesfan Ysgol yn gywir neu eu hannog i arfer ymddygiadau diogel eraill, pan fyddant ar neu’n agos at y ffordd. Caiff hyn ei wneud trwy gyflwyno sesiynau chwarae rhan mewn meithrinfeydd a’r Blynyddoedd Cynnar yn yr ysgol. Caiff celfi ffordd bychan eu defnyddio, fel mat sebra a goleuadau croesi. Bydd y plant yn mwynhau gallu defnyddio arwyddion a lifreion croesfan maint plentyn. 

Mae modd hyrwyddo negeseuon diogelwch allweddol, fel dal dwylo a defnyddio seddau diogelwch mewn ceir. Caiff negeseuon o’r fath eu hatgyfnerthu, pan fo modd, trwy roi eitemau hyrwyddo, dalennau lliwio neu lyfrynnau i’r disgyblion eu defnyddio yn yr ysgol neu fynd â hwy adref. Gall deunyddiau o’r fath fod yn ddefnyddiol i atgoffa a chynghori eu rhieni.

yn ôl i'r brig