

Dyma enw Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru, sydd â’r nod o leihau faint o bobl sy’n cael eu lladd a’u hanafu ar ffyrdd Cymru trwy orfodi gyda chamerâu cyflymder a golau coch, yn ogystal â thrwy addysg. Mae’n cynnwys chwe chyngor y Gogledd, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi, Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae gan bob un o chwe awdurdod y Gogledd Swyddog Ffyrdd Diogelach, sy’n gweithio i’r bartneriaeth hon. Maent yn addysgu ac ymwneud â defnyddwyr ffyrdd lleol ynghylch gorfodi gyda chamerâu diogelwch a diogelwch ar y ffyrdd. Mae Swyddog Ffyrdd Diogelach Wrecsam yn rhan o’r tîm Diogelwch ar y Ffyrdd.
Os ydych eisiau cysylltu â Phartneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru ebost ganbwyll@nthwales.pnn.police.uk.