

Lluniwyd Cynllun Swyddogion Iau Diogelwch ar y Ffyrdd i dargedu disgyblion Blwyddyn 5 a 6. Bydd yr ysgol yn penodi dau Swyddog Iau Diogelwch ar y Ffyrdd, un o Flwyddyn 6 ac un o Flwyddyn 5, fydd yn cynnal bwrdd hysbysebion Diogelwch ar y Ffyrdd.
Pob tymor bydd y Swyddog Iau Diogelwch ar y Ffyrdd (JRSO) yn newid y neges ynghylch Diogelwch ar y Ffyrdd. Yr ysgol sy’n penderfynu faint i hyrwyddo’r neges arbennig, gan ddibynnu ar y galw.
Meg Meddwl, ci defaid, yw masgot y cynllun ac mae ei darlun yn ymddangos ar ddeunydd ysgrifennu a baner hyrwyddo’r cynllun. O bryd i’w gilydd caiff gwobrau eu rhoi am waith da. Unwaith y flwyddyn caiff Gwobr Rhagoriaeth Diogelwch ar y Ffyrdd ei dyfarnu i’r ysgol sydd fwyaf rhagweithiol o ran diogelwch ar y ffyrdd.