Kerbcraft

Rhaglen hyfforddi plant ar draed yw hon ar gyfer disgyblion 5 i 7 oed ond mae’n cael ei dargedu ar ddisgyblion Blwyddyn 1. Yn 2008/09 roedd 24 ysgol yn ymwneud â’r rhaglen a hyfforddwyd dros 1,000 o ddisgyblion. Yn 2009/10 mae 6 ysgol ychwanegol yn cael eu hychwanegu at y cynllun, sy’n golygu y bydd 30 o ysgolion a rhyw 80% o ddisgyblion Blwyddyn 1 yn ymwneud â hyfforddiant cyn diwedd Mawrth 2010.

I gael manylion llawn yr hyfforddiant a chloriannu llawn y cynllun yn genedlaethol, ymwelwch â Diogelwch Ffyrdd Cymru - Adroddiadau Kerbcraft yng Nghymru (cyswllt allanol).

Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun yng Nghymru i’w gael yn Diogelwch Ffyrdd Cymru - Kerbcraft yng Nghymru (cyswllt allanol).

yn ôl i'r brig