Aelodaeth

Brake

Elusen gofrestredig yn ymroddi i ddiogelwch ar y ffyrdd yw hon, sy’n anelu at addysgu defnyddwyr ffyrdd ac sy’n ymgyrchu dros ddiogelwch ar y ffyrdd. Mae hefyd yn gofalu am y rhai a anafwyd yn ddifrifol neu rai mewn profedigaeth o ganlyniad i wrthdrawiad ar y ffordd, trwy wasanaethau cefnogi o’u hadran BrakeCare.

Diogelwch ar Ffyrdd Prydain

Sefydliad cenedlaethol diogelwch ar y ffyrdd yw Diogelwch ar Ffyrdd Prydain (LARSOA gynt) sy’n cynrychioli timau diogelwch ar y ffyrdd llywodraeth leol ar hyd a lled y DU. Mae’n rhoi fforwm i ni rannu syniadau a dysgu am arferion gorau a, thrwy hynny, mae’n cynorthwyo inni gyflawni ein swyddogaeth statudol o leihau anafiadau trwy addysg, hyfforddiant a chyhoeddusrwydd. Mae Diogelwch ar Ffyrdd Prydain hefyd yn ceisio dylanwadu ar y farn gyhoeddus a pholisi’r llywodraeth mewn cysylltiad â diogelwch ar y ffyrdd. Mae’n gweithio gyda chyrff eraill i gyflawni amcanion cyffredin.

I gael newyddion am weithgareddau presennol a diweddar, ymwelwch â’u cyflenwad newyddion (cyswllt allanol / Saesneg yn unig), sy’n cael ei ddiweddaru bob wythnos.

RoSPA

Elusen gofrestredig yw’r Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (cyswllt allanol / Saesneg yn unig), gyda chenhadaeth i achub bywydau a lleihau anafiadau. Mae’n ymwneud ag atal llawer math o ddamweiniau, gan gynnwys diogelwch ar y ffyrdd. Mae’n cynorthwyo’r timau Diogelwch ar y Ffyrdd yn eu gwaith, trwy fod yn ffynhonnell cyngor a gwybodaeth arbenigol, trwy ymchwil a thrwy werthu adnoddau, yn ogystal â darparu deunyddiau am ddim a gweld bod eraill ar gael i’w lawrlwytho o’i gwefan. Mae hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddiant ar bynciau diogelwch a hyfforddi gyrwyr fflyd.

yn ôl i'r brig