Partneriathau

Grŵp Diogelwch ar Ffyrdd Gogledd Cymru.

Bydd swyddogion Diogelwch ar y Ffyrdd chwe awdurdod Gogledd Cymru, sef Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam, a chynrychiolwyr y tri gwasanaeth brys ac o’r Bartneriaeth Lleihau Anafiadau Cymru, yn cyfarfod i drafod diogelwch ar y ffyrdd drwy gydol y flwyddyn, bob mis heblaw mis Awst. Bydd yr awdurdodau’n cydrannu rhai o’u hadnoddau ariannol a bydd yr holl aelodau’n rhannu syniadau ar gynnal ymgyrchoedd. Bydd cynrychiolwyr y Grŵp ac aelodau eraill o’r timau Diogelwch ar y Ffyrdd ac asiantaethau eraill yn staffio achlysuron ac yn cynnal ymgyrchoedd addysgol a chynyddu ymwybyddiaeth, e.e. mewn sioeau amaethyddol, eisteddfodau ac mewn ysgolion a cholegau.

Bu’r grŵp hwn yn llwyddiannus mewn ymgyrchoedd cydweithredol yn y cyfryngau fel yr hysbysebion a glywsoch efallai ar y gorsafoedd radio lleol fel Heart FM 103.4.

Diogelwch ar Ffyrdd Cymru

Partneriaeth yw Diogelwch ar Ffyrdd Cymru (cyswllt allanol) o bob un o 22 Awdurdod Lleol Cymru a/neu asiantaethau gyda chyfrifoldeb dros hyrwyddo diogelwch ar ffyrdd awdurdodau lleol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, y pedwar Heddlu Cymru, y tri gwasanaeth Tân ac Achub, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a’r Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau. Ei chenhadaeth yw hybu lleihau anafiadau trwy gydweithio. Mae’n meithrin cydweithrediad a chydadwaith rhwng aelodau.

Caiff ymgyrchoedd cenedlaethol eu cynllunio a’u gweithredu a deunyddiau dwyieithog eu datblygu a gweld eu bod ar gael i bartneriaid trwy’r sefydliad hwn. Bydd partneriaid unigol yn rhannu arferion gorau ac eitemau, a ddatblygwyd ganddynt. Mae’r rhain wedi cynnwys DVD diogelwch ar y ffyrdd, barddoniaeth diogelwch ar y ffyrdd neu lyfrau gweithgareddau a dramâu a sgriptiwyd yn ddwyieithog ar gyfer ysgolion neu golegau.

Fel gyda’r Grŵp Diogelwch ar Ffyrdd Gogledd Cymru (cyswllt allanol), caiff cronfa ganolog ei ffurfio o gyfraniadau gan alluogi arbedion maint o ganlyniad. Mae dosbarthiad cenedlaethol deunyddiau cyhoeddusrwydd gan bartneriaid yn cynyddu cyfleoedd y cyhoedd o ddod i gysylltiad ag unrhyw neges benodol, gan beri llawer o gyfleoedd hefyd trwy gyfrwng y wasg, radio a theledu weithiau.
I gael manylion gweithgareddau presennol neu ddiweddar, darllenwch adran newyddion eu gwefan, sy’n cael ei diweddaru’n rheolaidd.

yn ôl i'r brig