Awgrymiadau Gyrru yn y Gaeaf

© Interactive Driving Systems

Gan dybio eich bod yn gorfod teithio, dylech ddilyn ychydig o awgrymiadau syml i wneud teithio yn y Gaeaf mor ddiogel ag y bo modd.

Sicrhewch y canlynol

  • Bod eich cerbyd wedi cael ei gynnal a’i wasanaethu a bod y batri’n un da. Mae eich batri’n gorfod gweithio’n llawer caletach yn y gaeaf (goleuadau a sychwyr, er enghraifft) a gall fethu’n gyfan gwbl heb fawr ddim rhybudd.
  • Bod dyfnder gwadnau’r teiars yn ddigonol a’u pwysedd yn gywir (gan gynnwys yr un dros ben).
  • Bod y system oeri’n cynnwys gwrthrewydd i’r cryfder cywir.
  • Bod sychwyr a golchwyr y sgrin wynt yn gweithio’n briodol.
  • Bod goleuadau’n lân ac yn gweithio.

Cadarnhau cyflwr y tywydd

  • Cael gwybodaeth am deithio a’r tywydd ar deledu a radio lleol a chenedlaethol.
  • Gweld bod holl ffenestri a drychau eich cerbyd yn glir o darth, rhew ac eira. Mae eira a rhew yn lleihau’r hyn y gallwch ei weld, ac yn gallu bod yn beryglus i ddefnyddwyr eraill y ffyrdd wrth ddisgyn oedi ar eich cerbyd.

Os bydd cyflwr y tywydd yn eithafol fel bwrw eira

  • Holwch eich hun a yw eich taith yn hanfodol?
  • Sicrhewch fod gennych danc llawn o danwydd.
  • Gewch i rywun gwybod i ble’r ydych yn mynd a phryd y disgwyliwch gyrraedd.
  • Ewch â ffôn symudol os oes gennych un, ond cofiwch y gallech dorri i lawr mewn “ardal farw”. Felly ewch â dillad cynnes, diodydd poeth, bwyd, esgidiau mawr, tortsh a rhaw yn ogystal - gallech orfod cerdded yn bell at ffôn.

Os ydych allan ar y ffyrdd mewn amgylchiadau gwael

  • Defnyddiwch y priffyrdd a raeanwyd gymaint ag y gallwch. Fel arfer mae map o’r ffyrdd y bydd Cynghorau’n eu graeanu ar eu gwefannau.
  • Dylech ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer eich taith.
  • Dylech osgoi’r adeg brysur i leihau tagfeydd.

Yn gyffredinol, wrth yrru mewn tywydd gaeafol

  • Gyrrwch yn unol â’r amgylchiadau - ar ffyrdd a driniwyd a heb eu trin.
  • Arafwch os yw’n anodd gweld, pan fo eira, neu rhag ofn bod rhew wedi ffurfio.
  • Defnyddiwch y gêr uchaf a allwch i gynorthwyo cadw rheolaeth ar y cerbyd ac osgoi brecio a chyflymu garw.
  • Cadwch bellterau stopio mwy diogel - mae dwy eiliad rhwng cerbydau’n addas ar gyfer amgylchiadau da! Mae wyneb ffordd wlyb yn golygu y byddwch yn cymryd dwywaith y pellter i stopio, fel bod angen i chi fod o leiaf bedair eiliad ar ôl y cerbyd o’ch blaen.
  • Defnyddiwch oleuadau wedi’u gostwng pan fydd gwelededd yn wael ac mewn eira, fel bod pobl eraill yn gallu eich gweld!
  • Defnyddiwch oleuadau niwl ôl pan fydd gwelededd yn wael ond cofiwch eu diffodd pan fydd amgylchiadau’n gwella.
  • Cadwch olwg am ddefnyddwyr eraill y ffyrdd, gan gynnwys beiciau modur, beiciau, cerddwyr a phlant. Fe all fod yn anodd iddynt hwythau hefyd dan yr amgylchiadau.

Os byddwch yn torri i lawr

  • Os byddwch yn mynd i drafferthion, arhoswch gyda’ch cerbyd os gallwch nes bydd cymorth yn cyrraedd.
  • Os byddwch yn gorfod gadael eich cerbyd, gwnewch eich hun yn weladwy i eraill.
  • Os byddwch yn gorfod gadael eich cerbyd, rhowch y manylion i’r heddlu lleol a pharcio’n ddiogel i osgoi rhwystro cerbydau cynnal a chadw fel erydr eira wrth iddynt geisio trin y ffyrdd.

Cyngor ar gyfer amgylchiadau tywydd arbennig

Mae niwl yn berygl arbennig yn yr hydref a’r gaeaf, ac yn un o brif achosion gwrthdrawiadau.

  • Arafwch, cadwch yn ddigon pell, a defnyddio goleuadau mewn niwl.
  • Gyrrwch yn araf iawn gan ddefnyddio goleuadau wedi’u gostwng. Defnyddiwch oleuadau niwl os yw’n anodd iawn gweld, ond cofiwch eu diffodd pan fydd gwelededd yn gwella.
  • Peidiwch â dilyn goleuadau ôl y cerbyd o’ch blaen yn rhy agos - mae hyn gwneud i chi deimlo’n ddiogel ar gam ac yn golygu y gallwch fod yn gyrru’n rhy agos.
  • Peidiwch â chyflymu’n sydyn - hyd yn oed os yw’n ymddangos bod pethau’n gwella, gallwch gael eich hun yn ôl mewn niwl trwchus yn ddirybudd.

Mae rhew, eira a slwtsh yn lleihau gallu eich teiars i afael yn y ffordd yn fawr iawn, sy’n golygu bod arafu, cyflymu neu newid cyfeiriad i gyd yn beryglus. Dan yr amgylchiadau hyn, y tric yw gyrru mor esmwyth ag y gallwch.

  • Gyrrwch yn araf, gan adael lle ychwanegol i arafu a stopio.
  • Gall gymryd dengwaith yn hwy i stopio dan amgylchiadau rhewllyd nag ar ffordd sych.
  • Defnyddiwch y gêr uchaf a alloch i osgoi troelli’r olwynion, peidiwch â newid cyfeiriad na brecio a chyflymu’n sydyn.
  • I frecio ar rew ac eira heb gloi eich olwynion, ewch i gêr isel yn gynharach nag arfer, gadael i’ch cyflymder ostwng, a defnyddio’r brêc yn dawel fach.
  • Os byddwch yn sglefrio, tynnwch eich troed oddi ar y cyflymydd ond peidiwch â brecio’n sydyn.

Llifogydd: Mae’n well peidio â mynd i lifddwr o gwbl - os gallwch chi fynd ar ffordd arall, gwnewch hynny. Os byddwch yn mynd i lifddwr:

  • Gyrrwch yn araf yn y gêr gyntaf, ond cadwch gyflymder y peiriant yn uchel trwy lithro’r cydiwr - bydd hyn yn eich cadw rhag nogio.
  • Ewch drwy’r dŵr un cerbyd ar y tro.
  • Ceisiwch osgoi’r dŵr dyfnaf, sydd ger y pafin fel arfer. Peidiwch â cheisio croesi os yw’r dŵr yn edrych yn rhy ddwfn. Gwyliwch geir eraill!
  • Cofiwch brofi eich brêcs ychydig o weithiau ar ôl i chi ddod allan o’r llif cyn gyrru ar gyflymder arferol.

Cofiwch

  • Sicrhau rhoi lle ychwanegol i feicwyr a beicwyr modur ar dywydd garw.
  • Mae disgleirdeb haul isel y gaeaf yn gallu bod yn beryglus. Ewch â sbectol haul yn y car rhag ofn ei fod yn rhy isel i’r cysgod llygaid.
  • Mae’n cymryd dwywaith y pellter i stopio ar ffordd wlyb ag ar un sych, a hyd at ddengwaith mwy dan amgylchiadau rhewllyd.

Ffynhonnell / Cydnabyddiaeth: © INTERACTIVE DRIVING SYSTEMS

yn ôl i'r brig