Ffordd Fynediad Newydd Ystad Ddiwydiannol Wrecsam

Diweddariad Mai 2012

Chliciwch ar y lun er mwyn gweld fersiwn mwy. Pan fyddwch yn agor y llun cyntaf, defnyddiwch yr eiconau llywio a fydd yn ymddangos, neu y chwith a bysellau saeth Hawl ar eich bysellfwrdd, i weld lluniau eraill.

Northern Access

Southern Access

Diweddariad Ionawr 2012

Mae mwy na hanner y cyfnod adeiladu sydd wedi’i gynllunio ar gyfer Cynllun Ffyrdd Mynediad Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam wedi mynd heibio erbyn hyn. Bydd Aelodau Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam yn cael cyflwyniad ar ddechrau Cyfarfod y Bwrdd Gweithredol ddydd Mawrth nesaf i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y cynnydd hyd yma.

Disgwylir i’r rhan ddeheuol - o Cross Lanes i Five Fords – gael ei gwblhau gryn dipyn yn gynt na’r rhaglen. Mae’r rhan ogleddol yn mynd yn ei blaen yn unol â’r disgwyl ac mae’n debygol o gael ei chwblhau cyn Awst 19eg eleni.

Mae’r cynllun, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, hefyd o fewn gyllideb ar hyn o bryd.

Chliciwch ar y lun er mwyn gweld fersiwn mwy. Pan fyddwch yn agor y llun cyntaf, defnyddiwch yr eiconau llywio a fydd yn ymddangos, neu y chwith a bysellau saeth Hawl ar eich bysellfwrdd, i weld lluniau eraill.

Northern Access

Southern Access

Diweddariad Tachwedd 2011

Mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen yn dda ar y ffyrdd gogleddol a deheuol. Mae tua 6 mis o’r cyfnod adeiladau 66-wythnos eisoes wedi mynd, ac mae’r gwaith ar amser.

Y rhan ogleddol, yw’r ffordd ddeuol o gylchfan bresennol Borras ar y A5156 yn syth drwodd at gylchfan Lôn y Bryn ger y Ffatri JCB, a dylai hon fod ar agor i drafnidiaeth erbyn mis Awst y flwyddyn nesaf. Disgwylir y bydd y rhan ddeheuol, sy’n cynnwys ffordd unffrwd, unionsyth, newydd yn bennaf, o Five Fords yn y gogledd i’r A525 yn Lôn Groes yn y de, fod ar agor i drafnidiaeth erbyn dechrau’r haf nesaf.

Ar benwythnos 21/22 Hydref, bu newid mawr yn nhrefn y traffig yn y rhan ogleddol. Newidiwyd y traffig o’r A534 Ffordd Holt ar ffordd newydd dros dro ar hyd ei hymyl. Bydd hyn yn golygu y gellir adeiladu’r ffordd ddeuol newydd yn ddiogel yn y rhan hon. Wedi ei chwblhau, bydd y traffig yn newid eto i deithio ar hyd y ffordd ddeuol newydd a bydd y ffordd ‘dros dro’ yn cael ei throi yn llwybr cerdded, beicio a mynediad amaethyddol yn barhaol.

Mae’r tîm safle cyfan yn gobeithio cael tywydd ffafriol drwy fisoedd y gaeaf fel y gellir parhau a’r gwaith ar amser.

Diweddariad Hydref 2011

Chliciwch ar y lun er mwyn gweld fersiwn mwy. Pan fyddwch yn agor y llun cyntaf, defnyddiwch yr eiconau llywio a fydd yn ymddangos, neu y chwith a bysellau saeth Hawl ar eich bysellfwrdd, i weld lluniau eraill.

Diweddariad Medi 2011

Mae gwaith ar y safle’n mynd rhagddo’n dda wrth i ni nesáu at yr hydref. Gwnaed cynnydd da ar adeiladu beth fydd yn fynedfa i’r gogledd rhwng cylchfannau Ffordd Holt a Borras a’r gwaith i ehangu cylchfan Ffordd Holt ei hun.

Gwnaed gwaith helaeth i’r gwrthglawdd a fydd yn y diwedd yn llwybr cerdded/llwybr i feiciau, ac a’r fynedfa amaethyddol rhwng cylchfan newydd Plas Gourton a chylchfan newydd Ffordd Holt. Elfen bwysig o’r rhaglen yw dargyfeirio holl draffig yr A534 dros dro i’r ffordd hon er mwyn galluogi i’r ffordd ddeuol barhaol gael ei hadeiladu ar y darn hwn, a hynny heb draffig cyhoeddus. Ar hyn o bryd bwriedir i’r traffig gael ei ddargyfeirio ym mis Tachwedd eleni.

Chliciwch ar y lun er mwyn gweld fersiwn mwy. Pan fyddwch yn agor y llun cyntaf, defnyddiwch yr eiconau llywio a fydd yn ymddangos, neu y chwith a bysellau saeth Hawl ar eich bysellfwrdd, i weld lluniau eraill.

Northern Access

Southern Access

Mae’r gwaith i’r tir o gylchfan newydd Plas Gourton i gylchfan Lôn y Bryn hefyd yn mynd rhagddo’n dda.

Mae’r gwaith adeiladu i’r rhan ddeheuol rhwng Five Fords a Cross Lanes hefyd ar y gweill, gan gynnwys y bont newydd arfaethedig sy’n croesi afon Clywedog.

Mae’r gwaith ar amser i gyfeiriad y gogledd a’r de a gobeithir agor y ffordd newydd erbyn diwedd Awst 2012.

Prif Waith Adeiladu

Fideo Fersiwn Quicktime 377Mb
Fideo Fersiwn Windows Media 97Mb

Mae’r cynllun yn cynnwys dwy ffordd fynediad gwahanol.

Bydd ffordd fynediad y gogledd yn ffordd ddeuol o gylchfan Ffordd Borras ac yn ymestyn tua’r de i gylchfan Ffordd Holt a fydd yn cael ei ymestyn a’i ail-leoli i’r de.

O’r fan honno, bydd darn newydd, ffordd ddeuol yn bennaf i’r gogledd o’r ffordd bresennol a fydd yn ymestyn i’r gogledd o dafarn y Gredington Arms – yn hytrach nag i’r ochr dde fel y mae hi ar hyn o bryd.

I’r de o’r gyffordd o’r A534 a Lôn Plas Borras bydd cylchfan newydd yn cael ei hadeiladu yn y caeau sydd i’r de o’r A534 presennol, ac y bydd ffordd ddeuol newydd yn ymestyn ar draws y caeau gwyrdd, i gysylltu yn y pendraw at gylchfan Lôn y Bryn sydd gyferbyn â ffactori JCB ar ochr gogleddol yr ystâd.

Bydd pont newydd i gludo ffordd ddeuol newydd yr A534 dros Ffordd Fynediad bresennol chwarel Tarmac.

Mae’r ffordd fynediad i’r de yn bennaf yn ffordd unffrwd (mae llif y traffig yn llai na’r llif ar y ffordd ogleddol) ac mae’n cysylltu’r A525 Ffordd Whitchurch â chylchfan newydd sydd i’r gogledd o’r A525.

Bydd y ffordd unffrwd newydd yn ymestyn ar draws gaeau gwyrdd, ac yn disodli Ffordd Bedwell sydd o safon wael, a bydd yn rhoi cyswllt newydd i’r ffactori Tetrapak presennol. Mae dau gylchfan pellach a darn cysylltiol o ffordd ddeuol yn gwneud y cysylltiad at ochr ddeheuol yr Ystad Ddiwydiannol ar Ffordd Cefn a De Ffordd Clywedog yn eu trefn.

Bydd pont newydd yn disodli'r strwythur tywodfaen cul presennol i fynd â’r ffordd newydd dros afon Clywedog.

Mae’r ddwy ffordd fynediad i gael eu cwblhau’r haf nesaf.

Birse Civils Ltd sy’n gwneud y gwaith gyda thîm Rheoli Prosiect y Cyngor ac fe’u lleolir ar yr ystâd ddiwydiannol. Mae’r tîm yn cynnal cymorthfeydd ar y safle bob bore Mercher i unrhyw un sydd am gael atebion i’w cwestiynau, neu i gael gwybod mwy am y cynllun.

Gwaith Ategol Haf/Hydref 2010

Roedd y gwaith ategol yn ymdrin â materion ecolegol cymhleth sy’n ymwneud â rhywogaethau a ddiogelir ar y safle gan gynnwys, ystlumod, moch daear, adar sy’n nythu a madfallod dŵr cribog. Canlyniad y gwaith ategol oedd amgylchynu’r safle gyda ffens dros dro, ffensys moch daear a ffensys eithrio madfallod. Adeiladwyd brochfa moch daear artiffisial hefyd.

Yn ychwanegol at hyn, cafodd y coed a’r gwrychoedd eu torri i rwystro unrhyw adar rhag nythu a fyddai fel arall yn rhwystro dechrau ar y prif waith yn ddiweddarach eleni.

Cafodd madfallod dŵr cribog eu casglu’n ofalus gan weithwyr trwyddedig ac fe’u hail-leolwyd y tu hwnt i’r safle. Roedd y gwaith casglu’n cael ei wneud yn ddeddfol o drefnus ac roedd angen sicrhau nad oedd unrhyw fadfallod yn weddill ar y safle cyn datgan ei fod yn ‘rhydd o fadfallod.’ O’r diwrnod hwnnw ymlaen archwiliwyd y ffens madfallod yn ddyddiol er mwyn sicrhau nad oeddynt yn ail-gytrefu yno.

Unwaith roedd y brochfa moch dear artiffisal wedi bod yno am chwe mis, temptiwyd y moch daear - gan ddefnyddio llwybr o fenyn cnau daear - i’r frochfa newydd er mwyn galluogi cau’r hen frochfa dan amodau rheoledig.

Archwiliwyd pob un o’r coed a dorrwyd er mwyn gweld os oedd potensial i ystlumod glwydo arnynt. Defnyddiwyd camerâu endosgop i’w harchwilio. Gosodwyd blychau i ystlumod i ddarparu lleoedd eraill iddynt glwydo.

Golygodd y gwaith ategol mai prin fyddai’r peryglon i achosi oedi ar ddechrau’r prif waith.

Hanes

Nodwyd bod angen gwell mynediad i’r ystâd ddiwydiannol yn 1970 ac yn y diwedd daeth cyllid ar gyfer y prosiect ar gael yn y 1990au. Er hynny, paratowyd yn helaeth a chynhaliwyd ymholiad cyhoeddus er mwyn i’r prosiect hir ddisgwyliedig ddechrau ym mis Mehefin eleni.

Mae gan Wrecsam ffyrdd da sef yr A525 a’r A483 sy’n rhoi cysylltiadau da i rwydwaith y traffyrdd. Fodd bynnag, roedd y cysylltiadau i’r ystâd ddiwydiannol yn annigonol iawn o’r gogledd ac o’r de. Mae gofyn i loriau cymalog 40 tunnell basio ei gilydd ar ffyrdd sydd prin yn lletach na lonydd gwledig sy’n rhy gul ac anaddas.

Mae’r mynediad gwael hefyd yn peryglu ystâd ddiwydiannol Wrecsam, hynny byddai perygl iddi fod yn anghystadleuol a byddai hyn yn rhwystr i fusnesau newydd a’r busnesau presennol.

Ystad Ddiwydiannol Wrecsam

Lleolir yr ystad ddiwydiannol tua 4 km i’r dwyrain o ganol tref Wrecsam. Mae’n ardal gyflogaeth bwysig, sydd tua 513 hectar o faint gydag oddeutu 300 o gwmnïau yn cyflogi tua 7,200 o bobl.

Mae’r cyflogwyr yn cynnwys enwau cyfarwydd megis Kellogg’s a JCB. Mae’n gartref i safle amwynderau cartref cwbl gyfoes Wrecsam a Pharc Ailgylchu Wrecsam sy’n cael ei weithredu gan y Waste Resources Group sy’n rheoli gwastraff gwyrdd a gwastraff bwyd y fwrdeistref sirol. Mae hefyd yn gartref i nifer o fusnesau teuluol bychain a chwmnïau canolig eu maint.

yn ôl i'r brig