Ein NodEin bwriad yw diogelu defnyddwyr ffyrdd Bwrdeistref Sirol Wrecsam drwy gydol misoedd y gaeaf.
Caiff halen y graig ei daenu dros 500 cilometr o’r rhwydwaith Cefnffyrdd a ffyrdd y Fwrdeistref Sirol dros gyfnod o ddwyawr a hanner pan fo rhagolwg o farrug a rhew.
Mae 11 o lwybrau blaenoriaeth graeanu rhag ofn sy’n cynnwys 40% o 1140 km rhwydwaith ffyrdd cynaledig y Fwrdeistref Sirol. Trefnwyd o flaen llaw pa rai yw’r llwybrau graeanu trwy ddefnyddio meini prawf fel uchder uwchlaw’r môr, dosbarth y ffordd, rhediad y ffordd ac agosrwydd at ysgolion, llwybrau bysiau, diwydiant lleol a chylchoedd siopa sy’n debygol o gynhyrchu llawer o draffig.
Ein hamcan yw sicrhau taenu halen y graig ar y briffordd cyn ffurfio rhew. I gyflawni hyn mae gweithlu unswydd o 40 gyrwyr cymwysedig yn rhedeg fflyd o 14 cerbyd graeanu o’u canolfan yn adran Strydwedd. Gall y gwaith graeanu ei hun gael ei wneud o un o’n tri depo yn y Waun, Llai neu Stad Ddiwydiannol Wrecsam a gwasgaru tua 4,000 tunelli o halen y graig ar rwydwaith ffyrdd y Fwrdeistref Sirol yn ystod gaeaf arferol.
Nid yw palmentydd ar hyd lonydd cerbydau a lonydd beicio’n cael eu trin yn dilyn rhagolygon rhew ond cant eu hystyried, yn enwedig mewn cylchoedd siopa prysur ar gyfer cerddwyr yn unig, os bydd cyfnod hir o rew neu eira ac adnoddau ar gael.
Caiff rhagolygon dyddiol y tywydd eu derbyn drwy gydol y gaeaf ac yn benodol i Fwrdeistref Sirol Wrecsam. MeteoGroup sy’n darparu’r rhagolwg gan ddefnyddio eu profiad o ddarogan y tywydd ynghyd â gwybodaeth sy’n dod o synwyryddion rhew ym Mwlch-gwyn, Glyn Ceiriog, Canol Tref Wrecsam a Bangor Is-coed i ragweld y tywydd am gyfnod o 24 awr o hanner dydd bob dydd. Y rhagolwg hwn yw sail ein penderfyniadau ynghylch graeanu er mwyn diogelwch ar y ffyrdd yn ystod y 24 awr nesaf. Yna caiff rhagolwg y tywydd a’r camau gweithredu dilynol eu dosbarthu i ysgolion, yr adran gludiant ac adrannau allweddol eraill y Cyngor.
Y deunydd dadrewi sy’n cael ei ddefnyddio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yw halen y graig o faint enwol 6mm, sy’n cael ei daenu ar y rhwydwaith ffyrdd ar gyfradd o 10 - 15gm/m2 cyn i farrug a rhew ddatblygu. Mae’r ffigur hwn yn cynyddu i 40gm/m2 pan fydd eira’n dechrau. Daw halen y graig o ffynhonnell anadnewyddadwy ac, mewn crynhoad mawr, gall fod yn niweidiol i’r amgylchedd a gall wneud drwg i blanhigion dan amgylchiadau penodol. Felly, mae’n bwysig defnyddio’r deunydd ond pan fo angen ac yn y mannau cywir.
I dynnu rhew’n effeithiol o wyneb y ffordd mae ar halen y graig angen traffig yn symud, sy’n cynorthwyo malu’r gronynnau halen yn doddiant halwynog. Mae hyn yn toddi’r rhew yn gyflym ac yn atal rhag ffurfio rhagor o rew am amryw oriau.
Caiff biniau / pentyrrau halen eu lleoli mewn ardaloedd at ddefnydd cerddwyr a modurwyr i drin y briffordd gyhoeddus yn unig. Ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn cynnal dros 200 o finiau halen drwy’r Fwrdeistref Sirol gyfan. Caiff biniau halen eu darparu mewn mannau strategol nad yw ein prif gerbydau graeanu’n gallu eu cyrraedd ond sy’n agored i i gael asesiad unigol gyferbyn â meini prawf fel:
Caiff ffurflen ei defnyddio i gynorthwyo asesu holl geisiadau newydd am finiau halen yn unol â’r polisi a gytunwyd ar gyfer gwasanaeth yn y gaeaf. Gall Cynghorau Cymuned brynu biniau halen a halen y graig gan y Cyngor ond bod modd gwahaniaethu rhwng unrhyw finiau halen newydd â rhai Adran yr Amgylchedd ac mewn mannau cymeradwy ar y briffordd gyhoeddus.
Yn ystod misoedd y gaeaf daw llawer o geisiadau oddi wrth y cyhoedd i’r Awdurdod hwn roi halen y graig iddynt at ddefnydd personol. Yn anffodus, nid yw ein stoc halen yn caniatáu cyflenwi ar hap oddi allan i’n gwaith cynnal rheoledig yn y gaeaf ac, felly, ein polisi yw peidio â chyflenwi halen y graig at ddefnydd personol. Mae hyn yn sicrhau bod ein hadnoddau’n cael eu cadw at ddefnydd yr Awdurdod hwn i roi’r gwasanaeth mwyaf effeithlon i’r cyhoedd.
Nid yw meteoroleg yn wyddor fanwl ac mae’n anochel bod amgylchiadau’n ymddangos nad oedd modd eu rhagweld. Gallai hyn arwain at anawsterau yn y ffyrdd canlynol:
Rhif Ymholiadau Bws
01978 266166
Traveline Cymru
0871 200 22 33
Gwybodaeth mwy am cysylltiadau Gwasanaethau Bws
AA Travelwatch: 0900 340 1100
RAC Traffic Alert: 0906 470 1740
ar gyfer y ffôn symudol: dial 1740
Ystafell Rheoli Traffig Gogledd Cymru
24awr gwybodaeth i deithwyr:0845 602 6020
Swyddfa'r Tywydd: 0845 300 6020