Gwybodaeth am rôl y Prif Weithredwr

Mae swydd y Prif Weithredwr yn rôl amser llawn heb oriau gwaith sefydlog, gan fod natur y swydd yn galw am hyblygrwydd llwyr a gweithio oriau anghymdeithasol i fodloni gofynion yr Awdurdod a phobl Wrecsam. Yn aml mae hyn yn cynnwys cyfarfodydd gyda'r nos, gweithio ar y penwythnos a gweithgareddau dinesig.

Swyddogaethau a Chyfrifoldebau

Fel y Prif Swyddog a Phennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig mae’r Prif Weithredwr yn gweithio’n agos â’r tîm rheoli a’r holl Aelodau Etholedig i ddarparu’r isod: 

Arweinyddiaeth: sicrhau arweinyddiaeth a chyfeiriad cryf a gweladwy, gan annog a galluogi rheolwyr i gymell ac ysbrydoli eu timau 
Cyfeiriad strategol: sicrhau bod yr holl staff yn deall ac yn cadw at nodau strategol y sefydliad ac yn dilyn y cyfeiriad a osodir gan yr Aelodau Etholedig 
Cyngor ar Bolisi: gweithredu fel y prif gynghorydd polisi i aelodau etholedig y Cyngor i arwain ar ddatblygu strategaethau ymarferol a fydd yn cyflawni’r amcanion gwleidyddol a bennwyd gan yr Aelodau Etholedig 
Partneriaethau: arwain a datblygu strategaethau cryf ar draws y gymuned leol i sicrhau gwella canlyniadau a gwell gwasanaethau cyhoeddus i bobl leol 
Rheolaeth Weithredol: goruchwylio rheoli perfformiad a rheolaeth ariannol, rheoli risgiau, rheoli pobl a rheoli newid yn y Cyngor. 

Mae swyddogaeth y Prif Weithredwr yn cynnwys y cyfrifoldebau allweddol isod: 

  1. Hyrwyddo democratiaeth leol
  2. Denu busnesau a swyddi
  3. Sicrhau rheolaeth ariannol gadarn er mwyn cael gwerth am arian 
  4. Darparu gwasanaethau hanfodol bwysig i bobl fregus
  5. Cynnal popeth, o ysgolion a gwaith cymdeithasol i arolygwyr bwytai a dalwyr llygod mawr
  6. Bod yn gyfrifol am amgylchedd glanach, gwyrddach
  7. Hybu cymunedau cydlynus
  8. Ystyried datblygiad ardal yn y tymor hir
  9. Cynghori gwleidyddion lleol a chenedlaethol
  10. Hybu buddiannau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac ariannol yr ardal leol 
  11. Bod yn rhan o raglenni cydweithredu rhanbarthol
  12. Dylanwadu ar bolisi cenedlaethol sy’n berthnasol i lywodraeth leol   

Y Cyngor

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ydy’r cyflogwr mwyaf yn Wrecsam ac mae’n darparu neu’n comisiynu 700 o wasanaethau gwahanol.  Mae cyfanswm trosiant y sefydliad dros £345m ac mae’r rhaglen gyfalaf oddeutu £49.8m.

Mae’r Cyngor wedi derbyn gwobrau Rhagoriaeth Cymru am y prosiect Tîm o gwmpas y Plentyn, a’r Gwasanaethau Dydd a Chyflogaeth.  Roedd yr Awdurdod ar y rhestr fer am wobr Rhagoriaeth Cymru arall yn 2010, sef am eu cyfleusterau Ailgylchu Gwastraff.  Mae Wrecsam yn perfformio’n dda yn erbyn ei blaenoriaethau’n gyson, ac yn 2010 roedd yr awdurdod ar frig y tabl answyddogol o berfformiad awdurdodau lleol yng Nghymru a luniwyd gan y Western Mail.  Y prif gyrff sy’n rheoleiddio’r Awdurdod ydy Estyn (Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru), Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.  Mae eu hadroddiadau ar yr Awdurdod i’w gweld ar eu gwefannau. 

Cyflog

Amrediad cyflog swydd y Prif Weithredwr yw o £105,000 i £117,500 y flwyddyn. Mae gan ddeilydd y swydd yr hawl i 35 diwrnod o wyliau blynyddol bob blwyddyn.

Y Prif Weithredwr ydy’r Swyddog Canlyniadau ar gyfer Wrecsam a De Clwyd hefyd. Y Swyddog Canlyniadau ydy’r unigolyn â’r cyfrifoldeb cyffredinol am gynnal etholiadau.  Mae’r Swyddog Canlyniadau yn swyddog y Cyngor a benodir dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl.  Er mai’r cyngor sy’n eu penodi, mae rôl y Swyddog Canlyniadau ar wahân i’r dyletswyddau fel cyflogai’r cyngor.  Mae’r ffioedd sy’n daladwy ar gyfer y rôl yn amrywiol ac wedi’u rhagnodi’n bennaf gan y Llywodraeth Ganolog. 

Pensiwn

Mae gan y Prif Weithredwr yr hawl i fod yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, fel y rhan fwyaf o gyflogeion eraill ym maes llywodraeth leol.  Mae hwn yn gynllun pensiwn gwladol i bobl sy’n gweithio yn llywodraeth leol neu sy’n gweithio i gyflogwyr eraill sy’n rhan o’r Cynllun.  

Treuliau

Mae ad-dalu treuliau a ddaw i ran y Prif Weithredwr yn digwydd yn unol â chanllawiau corfforaethol caeth, fel yn achos cyflogeion eraill y Cyngor, ac fe’u telir yn unig pan gyflwynir y derbynnebau perthnasol. 

Cysylltu â’r Prif Weithredwr

E-bost: chiefexecutive@wrexham.gov.uk

yn ôl i'r brig