Nodiadau Cyfarwyddyd Ar Gyfer Ymgeiswyr

Croeso i nodiadau cyfarwyddyd ar gyfer ymgeiswyr swyddi Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae’r dudalen hon yn cynnwys cyngor a chyfarwyddyd defnyddiol i’ch cynorthwyo’n y broses o ymgeisio am swydd gyda’r Cyngor.


Cyflwyniad

Mae gan y Cyngor ddyletswydd i sicrhau bod pawb y mae’n ei gyflogi, beth bynnag fo’r gwaith, yn addas a bod ei weithdrefnau recriwtio yn drylwyr ac yn cydymffurfio â phob deddf a rheoliad.

Mae gan Strategaeth Gymunedol Wrecsam (2009/2020) weledigaeth, sef ‘gwella ansawdd bywyd pawb ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam’. Er mwyn cyflawni’r weledigaeth hon, y nod yw gwneud y Fwrdeistref yn lle:

  • Efo ffyniant economaidd
  • Diogel
  • Iach a gofalgar
  • Sy’n rhoi gwerth ar blant a phobl ifanc
  • Sy’n rhoi gwerth ar ddysg
  • Sy’n gofalu am yr amgylchedd

Er mwyn helpu’r Cyngor i gyflawni’r blaenoriaethau hyn a chyflawni ei gyfrifoldebau statudol, mae’n hanfodol bwysig bod pob ymgeisydd, yn enwedig y rhai a fydd yn gweithio efo plant, pobl ifanc neu oedolion agored i niwed yn mynd trwy weithdrefnau recriwtio ac archwiliadau trylwyr iawn cyn eu cyflogi.

Mae recriwtio i swyddi sy’n cynnwys gwaith efo plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed o dan reolaeth lem deddfau a rheoliadau a bydd pobl sy’n ymgeisio am swyddi o’r fath yn mynd trwy archwiliad cofnodion troseddol trwy Swyddfa’r Cofnodion Troseddol (SCT). Mae’r archwiliad hwn yn fodd i ddatgelu unrhyw euogfarn, rhybudd, cerydd a rhybudd terfynol ac mae’n gwneud archwiliadau hefyd yn erbyn Rhestr Gwahardd rhag Plant a Rhestr Gwahardd rhag Oedolion Agored i Niwed yr Awdurdod Diogelu Annibynnol (ADA).

Yn rhan o’r broses o ymgeisio, bydd gofyn i chi rhoi dyddiad eich geni, dyddiadau eich addysg a gwybodaeth am bob swydd a gawsoch o’r blaen ac unrhyw fylchau a gawsoch yn eich cyflogaeth.  Bydd hyn yn sicrhau bod modd i’r Cyngor sefydlu hanes addysg/gweithio cyflawn ar eich cyfer. Bydd gofyn i chi egluro unrhyw fylchau yn eich cyflogaeth. Ni fydd eich oed yn cael ei ddefnyddio fel rhan o’r broses o ddethol. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau oedran ar rai swyddi efo’r Cyngor, er enghraifft, mae’n rhaid i chi fod yn 21 oed neu fwy i weithio mewn Cartref Plant (Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002). Bydd manylion unrhyw ofynion o ran oedran yn y pecyn swydd.

Yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006, mae gan y Cyngor gyfrifoldeb i sicrhau y cynigir swyddi i bobl efo hawl gyfreithiol i fyw a gweithio yn y Deyrnas Unedig yn unig. Bydd pob ymgeisydd yn cael ei holi a oes arno/arni angen caniatâd i weithio yn y DU ac a oes cyfyngiadau ar eu cyflogi. Os byddwch yn llwyddiannus ac yn derbyn cynnig o waith efo ni, bydd disgwyl i chi ddangos papurau sy’n profi eich hawl i weithio cyn i chi ddechrau efo’r Cyngor.

Mae’r Cyngor yn cydymffurfio hefyd â Safon Waelodlin Diogelwch Personél Llywodraeth ei Mawrhydi (LlEM). Mae hyn yn arweiniad i arferion da ar gyfer sgrinio cyn cyflogi gweithwyr a chontractwyr i’r llywodraeth sy’n gofyn i’r Cyngor fod yn fwy heriol gyda’r archwiliadau y mae’n eu gwneud ar ddarpar weithwyr. Prif nod y safon yw helpu i roi sylw i broblemau twyll hunaniaeth, gweithio’n anghyfreithlon a thwyll. Er mwyn cydymffurfio â’r archwiliad hwn bydd disgwyl, os cynigir swydd i chi efo ni, i chi gadarnhau eich hunaniaeth, hanes eich cyflogaeth, cenedligrwydd a statws mewnfudo a hanes troseddol.


Ynglŷn Â’ch Ffurlen Gais

Mae eich ffurflen gais yn hynod bwysig. Hon yw’r unig wybodaeth yr ydym yn ei defnyddio i benderfynu a fyddwch ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Ni fyddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth a oedd gennym amdanoch o’r blaen, nac unrhyw gais blaenorol gennych.

I sicrhau cysondeb, mae’n rhaid i bawb lenwi’r Ffurflen Gais Safonol yn llawn.

Peidiwch â gwneud dim ond rhestru dyletswyddau eich swydd bresennol neu ddiweddaraf, ond yn hytrach dewiswch y sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad y mae’r swydd yr ydych yn ei cheisio yn gofyn amdanynt a rhowch dystiolaeth fod y rhain gennych. Rhowch ystyriaeth i brofiad gwaith blaenorol neu gyfrifoldebau eraill a allai fod yn gymorth i chi ddatgelu sgiliau y gallech chi fod wedi eu cymryd yn ganiataol. Peidiwch ag anghofio’r sgiliau a’r profiad y gallech chi fod wedi’u hennill y tu allan i’r gwaith. Os ydych chi wedi bod allan o waith cyflogedig ers tro, neu erioed wedi bod mewn swydd, gallai eich hanes o weithio fod yn llai pwysig na rhai o’r cyfrifoldebau a’r profiadau a gawsoch yn fwy diweddar. Er enghraifft, efallai bod cyfrifoldebau sylweddol gennych yn y cartref neu efallai eich bod yn trefnu gweithgareddau cymdeithasol neu gymunedol yn eich amser hamdden.

Mae 14 o rannau i’r ffurflen gais. Mae’r rhan fwyaf o adrannau’r ffurflen gais yn egluro eu hunain ac nid yw’r nodiadau hyn yn rhoi sylw i’r rhain. Fodd bynnag, rydym wedi cynnwys canllawiau ac eglurhad ar gyfer rhai agweddau yn Adran 3.

yn ôl i'r brig

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Mae Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person ar gyfer pob swydd wag. Mae Disgrifiad y Swydd yn egluro diben y swydd ac yn rhestru’r holl brif gyfrifoldebau, tasgau a dyletswyddau.

Mae Manyleb y Person yn rhestru’r cymwysterau, y sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad sydd eu hangen ar bwy bynnag sydd yn y swydd i wneud y gwaith. Mae’r rhain wedi eu rhestru fel meini prawf ‘hanfodol’ neu ‘ddymunol’.

Mae’r Cyngor yn gweithredu’r Cynllun “Yn Gadarn o Blaid Pobl Anabl”, ac os oes anabledd gennych a’ch bod yn cyflawni gofynion hanfodol y swydd, cewch wahoddiad i’r digwyddiad dethol a chewch sicrwydd o gyfweliad ar gyfer y swydd honno. Os ydych yn dymuno elwa ar y cynllun hwn mae croeso i chi lenwi a dychwelyd y bonyn perthnasol sy’n rhan o’r Holiadur Arolygu Cydraddoldeb.

Llunio’r rhestr fer

Bydd y broses o lunio’r rhestr fer yn seiliedig ar y dystiolaeth a geir ar y ffurflenni cais sy’n dangos bod ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cyflawni’r meini prawf hanfodol neu ddymunol ym manyleb y person.

Fe arfer, y rheolwr uniongyrchol sy’n penderfynu pa ymgeiswyr sydd i’w gwahodd am gyfweliad.

Yr Holiadur Arolygu Cydraddoldeb Recriwtio a Dethol

Mae gwerthfawrogi amrywiaeth yn golygu defnyddio cymaint o amrywiaeth o sgiliau a doniau ag y bo modd er lles ein cwsmeriaid a’r Cyngor. Mae gweithlu amrywiol yn meddu ar lawer o sgiliau a doniau ac mae ganddo fwy o allu i gyflawni anghenion cymunedau lleol amrywiol.

Mae dadansoddi data cyflogaeth yn ein helpu ni i ddeall a yw ein polisïau cydraddoldeb yn gweithio ac a yw ein harferion recriwtio a dethol neu arferion cyflogi eraill yn deg ac nad ydynt yn anffafrio unrhyw garfanau penodol.

I’n helpu ni i arolygu a gwella effeithiolrwydd ein harferion recriwtio a dethol a chydymffurfio â’n hymrwymiadau cyfreithiol, gofynnir i chi lenwi Holiadur Arolygu Cydraddoldeb. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei thrin ar wahân ac yn gyfrinachol ac nid yw’n rhan o’r broses o lunio rhestr fer na’r cyfweliadau.

Cyfrinachedd a Diogelwch Gwybodaeth Bersonol

Bydd eich ffurflen gais yn cael ei thrin yn gyfrinachol bob amser. Bydd ei chynnwys yn cael ei datgelu i’r bobl sy’n ymwneud â’r broses o recriwtio a dethol a neb arall.

Os cewch eich penodi, bydd y ffurflen hon yn cael ei defnyddio yn rhan o’r ffeil gweithiwr bersonol ac i gasglu gwybodaeth am y gweithlu. Bydd yr wybodaeth yn cael ei chadw yn unol â Deddf Diogelu Data 1988.

Os bydd eich cais yn methu, bydd y ffurflen gais yn cael ei chadw  o leiaf 6 mis ac yna ei difa. Gallem gadw’r wybodaeth i ddibenion ystadegol ac arolygu.

yn ôl i'r brig


Llenwi’r Ffurflen Gais

Manylion Personol

Yn yr Adran hon mae gofyn i chi nodi unrhyw enwau eraill yr adwaenid chi wrthynt. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i sicrhau y gwneir pob archwiliad hunaniaeth perthnasol.

Ar gyfer y cwestiwn am drwydded yrru, yr unig gwestiynau y mae’n rhaid i chi eu hateb yw’r rhai ynglŷn â’r math o drwydded ac a oes gennych arnodiadau/pwyntiau cost os yw gyrru yn un o ofynion y swydd yr ydych yn gwneud cais amdani.

Cyflogaeth Flaenorol

Rhestrwch bob un o’ch cyflogwyr blaenorol yn nhrefn y dyddiadau, gan ddechrau efo’r diweddaraf. Cofiwch gynnwys teitl eich swydd, gradd a chyflog, dyddiadau’r gyflogaeth a’r rheswm y gwnaethoch chi orffen. Os bydd angen, defnyddiwch daflen A4 ar wahân i sicrhau bod manylion pob cyflogaeth flaenorol wedi eu cynnwys. Yn unol â Pholisi Recriwtio Diogel y Cyngor, gellir gofyn am dystlythyrau gan unrhyw neu bob un o’ch cyflogwyr blaenorol.

Bylchau yn eich Cyflogaeth

Gan ddechrau unwaith eto efo’r diweddaraf, rhowch fanylion a dyddiadau unrhyw gyfnodau allan o’r gwaith am unrhyw reswm (e.e. gwaith gwirfoddol, rhesymau teuluol, teithio),

Cymwysterau Addysgol a Galwedigaethol (y mwyaf diweddaraf yn gyntaf)

Mae’n rhaid i chi ddangos bod gennych y cymwysterau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer y swydd. Rhowch fanylion eich hanes addysgol o 11 oed ymlaen trwy roi i ni enwau’r sefydliad addysgol, dyddiadau, cymwysterau a gafwyd yn cynnwys y radd/lefel a phryd y gwnaethoch chi eu cyflawni. Cofiwch eich bod yn cynnwys unrhyw gymwysterau proffesiynol (lle mae’n rhaid i chi fod yn aelod o gorff proffesiynol – gweler isod).

Os cawsoch chi eich cymwysterau mewn gwlad arall, bydd arnoch chi angen tystiolaeth i ddangos eu bod yn gyfwerth â’r cymwysterau Prydeinig sy’n angenrheidiol i’r swydd. Os oes arnoch chi angen cymorth efo hyn, ffoniwch UK NARIC ar 0871 330 7033/7005.

Os cynigir y swydd i chi, bydd disgwyl i chi gyflwyno tystiolaeth o unrhyw gymwysterau sy’n angenrheidiol i’r swydd.

Aelodaeth o Gyrff Proffesiynol/Rheoleiddio

Os yw meini prawf hanfodol neu ddymunol y swydd yn gofyn cymhwyster proffesiynol neu eich bod yn aelod o Gorff Rheoleiddio, rhestrwch os gwelwch yn dda enw’r corff, y dyddiad y gwnaethoch ei gyflawni, lefel yr aelodaeth a’ch rhif aelodaeth.

Os oes gennych gymwysterau proffesiynol nad ydynt wedi eu rhestru ym Manyleb y Person, gallwch ddefnyddio’r adran hon i’w cynnwys os ydych yn meddwl eu bod yn berthnasol.

Os cewch gynnig y swydd, bydd disgwyl i chi roi tystiolaeth o unrhyw aelodaeth o Gyrff Proffesiynol neu Reoleiddio sy’n hanfodol ar gyfer y swydd.

Profiad a Gwybodaeth Arall

Dyma ran bwysicaf eich cais. Ceisiwch baru eich sgiliau, gwybodaeth a phrofiad efo’r gofynion ar Fanyleb y Person.

Defnyddiwch y meini prawf hanfodol/dymunol yn benawdau ac amlinellwch eich profiad perthnasol. Rhowch fanylion yr hyn a wnaethoch, yr hyn yr oedd yn ei gynnwys, yr hyn a gyflawnwyd, a’r modd y mae’n berthnasol i’r swydd y gwneir cais amdani. Rhowch enghreifftiau o sgiliau a phrofiad yr ydych wedi eu cyflawni y tu allan i waith cyflogedig, fel gwaith gwirfoddol neu unrhyw weithgareddau cymdeithasol neu gymunedol. Os oes gennych NVQ neu gymhwyster/profiad galwedigaethol tebyg, efallai y byddwch yn dymuno disgrifio’r unedau yr ydych wedi eu cyflawni. Os ydych yn fyfyriwr, efallai hefyd y byddwch yn dymuno disgrifio unrhyw leoliadau profiad gwaith yr ydych wedi bod arnynt.

Cofnodion Troseddol a Chyflogaeth

Yn yr adran hon mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni am unrhyw drosedd yn erbyn y gyfraith, rhybudd, cerydd neu rybudd terfynol sydd gennych. Yn unol â Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974 mae’n rhaid i chi ddatgelu manylion unrhyw euogfarnau blaenorol, hyd nes byddant wedi darfod. Ystyrir bod euogfarnau wedi darfod pan yw’r sawl sydd wedi ei gael yn euog o drosedd yn erbyn y gyfraith wedi cwblhau cyfnod priodol o adsefydlu. Unwaith y bydd euogfarn wedi darfod, nid oes rhaid i’r sawl a gafwyd yn euog ei datgelu na chyfaddef ei bodolaeth yn y rhan fwyaf o amgylchiadau. Fodd bynnag, mae rhai eithriadau i hyn mewn perthynas â chyflogi ac mae’r rhain wedi eu rhestru yn y Gorchymyn Eithriadau i’r Ddeddf. Mae’r ddau brif eithriad yn ymwneud â phobl sy’n gweithio efo plant ac oedolion agored i niwed. Bydd disgwyl i bobl sy’n gwneud cais am swyddi yn y mathau hyn o waith ddatgelu pob euogfarn, wedi darfod neu ddim.  Hefyd, bydd angen Datgeliad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer unrhyw gynigion o gyflogi i waith o’r mathau hyn.

Bydd yr wybodaeth a roddwch yn cael ei thrin yn gyfrinachol. Ni fyddwch o raid wedi eich gwahardd rhag eich cyflogi oherwydd bod euogfarnau gennych. Bydd hyn yn dibynnu ar natur y gwaith a manylion ac amgylchiadau unrhyw euogfarn.

Gellid tynnu’r cynnig o waith yn ei ôl os byddwch yn methu â datgelu unrhyw euogfarn, rhybudd neu gerydd sydd wedi darfod neu’n dal i fod. Os ydych wedi eich penodi’n barod, gellid eich diswyddo heb rybudd.

Tystlythyrau

Mae tystlythyrau yn agwedd bwysig ar y broses o recriwtio ac mae’n rhaid i chi sicrhau mai eich cyflogwr  presennol neu ddiweddaraf yw un o’ch canolwyr neu, os na fuoch mewn swydd o’r blaen, pennaeth eich ysgol neu eich tiwtor os ydych yn ymadael â’r ysgol/coleg. Os nad oes gennych brofiad gwaith neu os nad yw’r cwmni yr oeddech yn gweithio iddo yn bod erbyn hyn, bydd tystlythyr gan rywun nad yw’n gyflogwr yn dderbyniol (e.e. eich meddyg, cyfreithiwr neu gyn athro). Os ydych yn gweithio i’r Cyngor ar hyn o bryd, rhowch enw a manylion cysylltu eich rheolwr llinell os gwelwch yn dda.

Fel arfer, byddwn yn gofyn am eich tystlythyrau os cewch wahoddiad i gyfweliad, oni bai eich bod yn nodi na ddylid gofyn ar hyn o bryd. Fodd bynnag, bydd angen tystlythyrau boddhaol ar gyfer unrhyw swydd a gynigir i chi.

Rydym yn cadw’r hawl i gysylltu ag unrhyw neu bob un o’ch cyflogwyr blaenorol.

Nid ydym yn derbyn tystlythyrau oddi wrth berthnasau, partneriaid nac Aelodau Etholedig y Cyngor.

Datganiad

Bydd rhaid i chi lofnodi eich ffurflen gais fel datganiad swyddogol bod yr wybodaeth rydych wedi ei rhoi yn gywir. Os ydych wedi gwneud cais ar-lein, ac ar y rhestr fer, gofynnir i chi lofnodi eich ffurflen gais yn y cyfweliad.

yn ôl i'r brig


Beth sy’n digwydd nesaf?

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais ac mae’r dyddiad cau wedi bod, mae’r broses ganlynol yn digwydd:

Rhestr fer - Fel arfer, o fewn pythefnos i’r dyddiad cau bydd cyfarfod rhestr fer yn nodi’r ymgeiswyr hynny sydd i’w gweld yn cyflawni’r gofynion hanfodol/dymunol sydd ym Manyleb y Person a byddant yn derbyn gwahoddiad i ddod i gyfweliad ffurfiol. Bydd eich addasrwydd yn cael ei asesu yn erbyn addasrwydd ymgeiswyr eraill.

Yn anffodus, oherwydd ein bod yn derbyn cymaint o ffurflenni cais, nid ydym yn gallu cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch yn clywed gan y Cyngor o fewn 4 wythnos wedi’r dyddiad cau, gallwch gymryd nad ydych ar y rhestr fer.

Cyfweliad – Cynhelir y rhain fel arfer o fewn 4 wythnos i’r dyddiad cau.

Yn ystod y cyfweliad, yn ogystal â gofyn cwestiynau i chi sy’n berthnasol i’r gwaith a’ch profiad, gallem ofyn i chi, os yw’n berthnasol:

Rhoi cyflwyniad – gyda thestun perthnasol i’w drafod

Mynd trwy brofion Seicometrig neu brofion ymarferol eraill (e.e. prawf teipio i fesur cyflymder a chywirdeb)

Cynnig Gwaith

Wedi’r cyfweliad, os byddwch yn llwyddiannus, bydd y Swyddog Penodi/Swyddog Adnoddau Dynol yn rhoi cynnig llafar o waith i chi. Fodd bynnag, bydd y cynnig hwn yn dibynnu ar dderbyn archwiliadau boddhaol mewn perthynas â thystlythyrau, cliriad meddygol, Datgeliad SCT (os yw’n berthnasol), tystiolaeth foddhaol o gymwysterau, aelodaeth o Gyrff Proffesiynol/Rheoleiddio, cymhwyster i weithio yn y DU ac Archwiliadau Safon Waelodlin Diogelwch Personél LlEM.

yn ôl i'r brig


Gweler hefyd cwestiynau a ofynnir yn aml ar gyfer Ymgeiswyr Swyddi gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam >>



Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch y swydd hon neu’r broses y dylid ei dilyn, siaradwch â’r ‘enw cyswllt’ neu’r Adran Bersonél (rhif ffôn ar yr hysbyseb swydd).

Gweler hefyd:

 Gwybodaeth am ymweld, byw a gweithio yn Wrecsam

Rhithdaith o Wrecsam

Ffeithiau, ffigyrau ac ystadegau allweddol am Wrecsam

yn ôl i'r brig