Gweithwyr Cymdeithasol Ymgynghorol
- Dychwelyd i mynegai Gweithio i'r Cyngor
- Edrych am Swydd
- Gyrfaoedd ym maes Gofal Cymdeithasol
- Gwirio GDG
Manylion Swyddi
Gweithwyr Cymdeithasol Ymgynghorol
Rydym yn edrych i benodi dau Weithiwr Cymdeithasol Ymgynghorol, un i ymuno a’r Tîm Cymorth i Deuluoedd a’r llall i ymuno â’r Tîm Plant sy’n Derbyn Gofal. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am lwyth gwaith bychan ac yn gyfrifol am oruchwylio ac ymgorffori rôl y Gweithiwr Cymdeithasol Ymgynghorol ar yr un pryd. Mae’r swydd yn gyfle da i unrhyw un sydd yn ystyried cam nesaf eu datblygiad tuag at reoli. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu arddangos eu hymrwymiad i gyflawni canlyniadau gwell i blant a theuluoedd a bydd hynny’n cael ei wneud drwy ddefnyddio theori ac ymchwil o fewn ymarfer rheng flaen. Bydd y Gweithiwr Cymdeithasol Ymgynghorol yn cefnogi staff i ddatblygu’r cyswllt hwn a hefyd i gadw i fyny â’r ymchwil ddiweddaraf a datblygiadau mewn arfer da gyda’r cyfrifoldeb i rannu’r rhain ac i fentora staff. Bydd yr unigolyn cywir ar gyfer y rôl yn meddu ar angen sgiliau cyfathrebu gwych, profiad o reoli gwaith achos cymhleth a phrofiad o oruchwylio wrth weithio o fewn canllawiau, polisïau a safonau statudol.
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y swydd mae’n rhaid i chi gofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gydag o leiaf 5 mlynedd o brofiad yng ngwaith Plant a Theuluoedd.
Yn gyfnewid am hyn, rydym yn cynnig:
• Goruchwyliaeth a chymorth ardderchog gan reolwyr • Mynediad at gyfleoedd hyfforddiant a datblygu parhaus • Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith gan gynnwys gweithio hyblyg • Talebau gofal plant • Cynllun Beicio i’r Gwaith • Cynllun Rhannu Car • Gostyngiadau a chynigion staff • Mynediad at Undeb Credyd
Am drafodaeth anffurfiol cysylltwch â Sarah Grant o Dîm Cymorth i Deuluoedd ar 01978 298620 neu Mihaela Bucutea ar 01978 295350.
I gael pecyn cais, cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Adnoddau Dynol, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY, dros y ffôn 01978 292012/Tecstio 18001 01978 292012, neu anfonwch e-bost at hrservicecentre@wrexham.gov.uk neu lawr lwythwch a llenwch y ffurflen gais pdf sydd ar gael ar y wefan.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, tueddfryd rhywiol, crefydd neu oedran.
Dyddiad Cau | 13/12/2019 |
---|---|
Cyflog/Graddfa: | G11 £36,876 to £39,782 |
Cyfnod | Llawn Amser Dros Dro |
Adran | Gofal Cymdeithasol |
Cyfeirnod | 04563 |
Dyddiad Postio | 27/11/2019 |
Ymlyniad |