Gweithio i'r Cyngor

Mae’r ystod eang o gyfleoedd mewn Awdurdod Lleol yn golygu bod cyfleoedd i bob mathau o bobl, gan gynnwys recriwtiaid â chymwysterau proffesiynol, gyda phrofiad blaenorol yn y sector preifat neu gydag awdurdodau lleol eraill.

Ar ba bynnag lefel rydych yn gweithio arni, rydym yn canolbwyntio’n fawr ar hyfforddiant a datblygiad gyrfaol. Bydd yr holl weithwyr cyflog yn derbyn cefnogaeth wrth weithio tuag at gymwysterau a hyfforddiant pellach ar lefel sy’n berthnasol i anghenion unigol.

Byddwn, dan nifer o amgylchiadau’n caniatáu rhyddhau bloc i alluogi gweithwyr, ar bob lefel, i ddilyn rhaglenni datblygu gyrfa neu astudio am gymwysterau.

Anogir gweithwyr i weithio tuag at Gymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol a ellir eu gwneud yn y gweithle. Yn ogystal â hyn, rydym yn cynnal ein cyrsiau hyfforddi byr ein hunain a byddwn yn noddi gweithwyr i gwblhau cymwysterau proffesiynol yn aml.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cyflogi oddeutu pum mil o bobl mewn ystod eang o swyddi. Pan ddaw swyddi gwag, byddant yn cael eu harddangos ar y wefan hon hyd nes y dyddiad cau.


Gweler hefyd:

Gwybodaeth am ymweld, byw a gweithio yn Wrecsam

Ffeithiau, ffigyrau ac ystadegau allweddol am Wrecsam

yn ôl i'r brig