Yn
Dda Ar Gyfer BusnesMae tirnod enwocaf Wrecsam, twr Eglwys y Plwyf San Silyn wedi bwrw ei drem dros y dref ers pum canrif ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu un o Saith Rhyfeddod Cymru'n dyst i gyfnod mwyaf deinamig Wrecsam hyd yn hyn.
Mae cwmnïau rhyngwladol enwog yn Wrecsam yn cynnwys Kelloggs, JCB, Duracell, Tetrapak, Cadburys, Continental Can, Calypso, Owens Corning, Sharp, Hoya a Brother Industries.
Mae brwdfrydedd ac ymdrechion pobl lleol gyda chefnogaeth anferth gan
yr asiantaethau sector cyhoeddus, y sector gwirfoddol a busnesau preifat
wedi trawsnewid Wrecsam iw wneud yn bwerdy economi Gogledd-ddwyrain
Cymru a chanolfan gweithgynhyrchu amrywiol a blaengar. Ystad Ddiwydiannol
Wrecsam ywr fwyaf yng Nghymru ar drydedd fwyaf yn y DU.
Mae
llawer o sefydliadau wedi buddsoddin sylweddol yn yr ardal. Maer
ffaith eu bod yn dal i ffynnu a chynnal eu hymroddiad i Wrecsam yn dangos
ei bod fel lleoliad yn cynnig amgylchfyd busnes y gallant lwyddo, ffynnu
a theimlon ddigon hyderus i ehangu ac ailfuddsoddi ynddi. Mae Wrecsam
o fewn dwy awr i draean poblogaeth y DU a hanner ei diwydiannau gweithgynhyrchu.
Mae lle amlwg yn yr ardal gan beirianneg, rhannau modurol, pacediadau, gofal iechyd/meddygol/ fferyllol, electroneg, ffibrau optegol/ opto-electroneg, prosesu bwyd, aer ofod, cemegolion a phlastig.
Mae llawer o gwmnïau Wrecsam ar fan eithaf crefft gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae Parc Technoleg Wrecsam yn gartref i gwmnïau uwch dechnoleg syn ymwneud â busnesau cyfrifiaduraeth, meddygol a fferyllol. Mae ymchwil i wyddoniaeth a thechnoleg yng Ngholeg Cysylltiol Prifysgol Cymru Athrofa Gogledd-ddwyrain Cymru, Wrecsam (NEWI), yn cyfannu gwaith y Ganolfan MedTech gydai chysylltiadau ag Ysbyty Maelor Wrecsam ac Athrofa Feddygol Wrecsam.
Gwyl Wyddoniaeth Wrecsam fwyaf yng Nghymru a Lloegr. Maer wyl,
a gynhelir bob gwanwyn, yn hyrwyddo gwyddoniaeth a thechnoleg drwy lu
o ddigwyddiadau diddorol, lle mae gwyddonwyr byd enwog a phobl busnes
yn cyfarfod myfyrwyr a phlant ysgol ac maen cynnwys rhywbeth at
ddant pawb.
Mae
digon o unedau ffatri o safon uchel a swyddfeydd ar gael yn Wrecsam. Maer
Fwrdeistref Sirol yn enwog am ei gweithlu aml-sgiliau a disgybledig.
Mae gan y Fwrdeistref Sirol enw da iw genfigennu wrtho mewn cysylltiadau gwaith, cynhyrchiant a chydweithio. Ar gyfartaledd mae un cwmni newydd yn cael ei sefydlu yn yr ardal bob wythnos.
Bydd unrhyw gwmni syn ystyried symud i Wrecsam yn dod i wybod bod Tîm datblygu Economaidd y Cyngor yn grwp o bobl broffesiynol a fydd yn gwneud eu gorau glas i ddiwallu anghenion pawb.
Mae Wrecsam yn gartref i Wasanaeth Erlyn y Goron yng Ngogledd Cymru a Swyddfa Gogledd-ddwyrain Cymru y Gwasanaeth Prawf, syn cefnogi Llysoedd y Goron a Llysoedd yr Ynadon syn bod eisoes. Mae pencadlys Adran Gogledd-ddwyrain Cymru Heddlu Gogledd Cymru yn Wrecsam ac maen gwasanaethu bron i hanner poblogaeth Gogledd Cymru.
Cysylltiadau perthnasol: