Materion Addysgol

Llun o phlant WrecsamMaterion Addysgol

O'r feithrinfa i'r dosbarth nos, o gyrsiau byr i gyrsiau gradd, wrth ystyried Addysg - mae Wrecsam ar frig y dosbarth!

Mae darpariaeth addysgol dda i unigolion a chwmnïau i ddilyn eu huchelgais dysgu a hyfforddi a chyflawni eu hamcanion gydol oes yn y Fwrdeistref Sirol. O addysg sylfaenol i lefelau gradd a graddau uwch – galwedigaethol ac academaidd, drwy astudio’n ffurfiol neu’n anffurfiol – mae ystod eang o gyfleoedd ar gael.

Mae pob ysgol yn y Fwrdeistref Sirol yn cynnig y safonau uchaf ac ystod ehangaf o gyfleoedd cwricwlaidd ac allgyrsiol.

Mae 72 ysgol gynradd, 10 ysgol uwchradd gan gynnwys a 3 ysgol sector arbennig. Lleolir y rhan fwyaf ohonynt yng nghanol eu cymunedau lle mae cysylltiad cryf gyda’r rhieni a’r teulu yn y broses addysgol.

Athrofa Gogledd-ddwyrain Cymru (NEWI) yw Coleg Cysylltiol Prifysgol Cymru Wrecsam gyda thros 4,500 of fyfyrwyr o dros 30 gwlad. Mae’n brifysgol mewn pob peth ond enw. Mae NEWI yn ymgyrchu i ennill y teitl hwn.

Mae’r Athrofa yn cynnig ystod eang o gymwysterau, o HND a graddau cyntaf i raddau Meistri a PhD mewn nifer o bynciau yn y celfyddydau, astudiaethau cymdeithasol ac iechyd, busnes a rheolaeth, gwyddoniaeth a thechnoleg, cyfrifiadureg ac addysg.

Mae gan Goleg Celf a Dylunio Gogledd Cymru, nid nepell o’r campws, enw da ac mae’n cynnwys gweithdai a stiwdios a adeiladwyd i’r pwrpas. Mae Canolfan Ian Anderson yn cynnwys yr offer celf man eithaf y grefft ar gyfer gwaith ffilm, teledu ac animeiddio. Mae’r Coleg Celf a Dylunio yn brif gyflenwr graddedigion tra medrus i’r diwydiant ffilm a theledu yn y rhanbarth ac yn un o’r rhai sydd ar flaen y gad ledled y DU.

Mae gan NEWI swyddogaeth bwysig yn y gymuned o ran ei chyfleusterau celfyddydau a chwaraeon. Mae hefyd yn lleoliad ar gyfer dwy ‘Ganolfan Ragoriaeth’ Awdurdod Datblygu Cymru’.

Mae Coleg Iâl Wrecsam, y mae cryn enw da iddo, yn un o’r colegau trydyddol sy’n datblygu gyflymaf yng Nghymru. Ystyrir Coleg Iâl fel sefydliad banerlong o ran safon ei waith ac mae’n cynnig ystod eang o gymwysterau. Mae Coleg Iâl yn Goleg Mynediad Agored – nid yw oed yn rhwystr, sy’n darparu ar gyfer gwahanol oedrannau a gallu dros 16+ oed.

Mae ansawdd a chyflawni safonau uchel yn nodweddiadu darpariaeth addysg yn y Fwrdeistref Sirol.

Cysylltiadau perthnasol:

Mwy Gwybodaeth Addysg  | Cysylltiadau Addysg | Cronfa Ddata Ysgolion

yn ôl i'r brig