Y
Pethe Beth bynnag fo'ch diddordebau, boed yn ddrama neu'n ddawns, yn ganu neu'n yfed, mae gan Wrecsam y cyfan ar eich cyfer.
Cynhelir amrywiaeth o Gelfyddydau Perfformiadol yn Neuadd William Aston ar gampws NEWI. Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cerddorfar Hallé, Cerddorfa Ffilharmonig Lerpwl a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru i gyd yn perfformion rheolaidd yn y lleoliad enwog hwn.
Gellir mwynhau dawns a drama yn Theatr Stiwdio Coleg Iâl, Wrecsam, ac mae Theatr Fach Parc y Llwyni yn gartref i gwmni drama amatur llewyrchus.
Cynhelir llu o ddigwyddiadau cerddorol a theatraidd yn Neuadd Goffa Wrecsam,
gan gynnwys dawnsio neuadd, sioeau talent a sioeau i blant, ffeiriau crefft
ac arddangosfeydd.
Mae
gan Wrecsam ddewis eang o fariau, tafarndai a chlybiau yn ogystal â
Mecca Bingo hynod o boblogaidd a sinema multiplex newydd syn dangos
y ffilmiau diweddaraf. Mae bandiau enwog yn perfformion rheolaidd
yn Yales Café Bar, sydd hefyd yn lleoliad ar gyfer nosweithiau
comedi rheolaidd. Mae hefyd sawl tafarn a bwyty o safon ledled y Fwrdeistref
Sirol.
I gael cip o hanes cymdeithasol a diwydiannol y rhanbarth, pam na wnewch chi ymweld ag amgueddfa diddorol Wrecsam. Mae gan Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a leolir yng nghyn farics y milisia, gasgliadau eang gan gynnwys Casgliad Pêl-droed Cymru, ac maen cynnal arddangosfeydd arbennig a digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn. Mae Canolfan Treftadaeth a Gwaith Haearn y Bers, a Phyllau Plwm y Mwynglawdd yn rhoi cipolwg o dreftadaeth ddiwydiannol Dyffryn Clywedog, gan gynnwys y diwydiannau haearn, dur, plwm a glo hanesyddol.
Mae Castell y Waun ac Erddig, dau eiddo mawr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn y Fwrdeistref Sirol hefyd, ar gyfer y rhai hynny syn dymuno archwilio agweddau hanesyddol.
Mae Cymrun enwog am ei gorau meibion ac mae Wrecsam yn gartref i bedwar or rhai gorau, Brymbo, Froncysyllte, y Rhos a Chôr Orffews y Rhos. Mae croeso i ymwelwyr fel arfer fynychu ymarferiadau a chael y profiad unigryw a chyffrous o wrando ar gôr Cymreig go iawn.
Maer traddodiad Cymreig yn cael ei hyrwyddo drwy gyn Sefydliad y Glowyr yn Rhosllannerchrugog Y Stiwt, syn cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau theatr a cherddorol.
Mae
Canolfan Gelf Wrecsam, Oriel Goffa Iâl ac Oriel 103 yn NEWI yn cynnal
arddangosfeydd drwy gydol y flwyddyn gan gynnig yr hyn sydd orau o gelf
a chrefft weledol yng Nghymru.
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Wrecsam sawl gwaith Bur Brifwyl yn Wrecsam am y tro cyntaf yn 1820.
Mae Wrecsam yn gartref hefyd ir Grwp Radio Sain y Gororau, syn gwasanaethu Gogledd Cymru a rhannau o Sir Gaer a Sir Amwythig gyda stiwdios recordio o safon uchel ar gyfer cerddoriaeth.
Mae canolfan y BBC yng Nghanolfan Gelf Wrecsam, syn gartref i ganolfan galw heibio gyntaf y BBC yng Nghymru.
Mae gan Wrecsam gysylltiad arbennig â Markischer Kreis (Sir Mark)
yn yr Almaen. Sefydlwyd y berthynas gefeillio hon yn 1970 a bun
llwyddiant diamheuol. Mae oddeutu 30,000 wedi cymryd rhan mewn cyfnewidiadau
fel rhan or bartneriaeth sydd wedi ennill baneri anrhydedd
ddwywaith gan Gyngor Ewrop.
Cysylltiadau perthnasol:
Beth Sy'n Digwydd | Canolfan Gelf Wrecsam | Taith Wrecsam