Amgylchedd Gwyrdd Mae gan y Fwrdeistref Sirol, gyda'i arwynebedd o 50,500 hectar a phoblogaeth o 125,750 lawer i'w chynnig pa un a ydych yn ymwelydd, yn bresylydd neu'n fusnes yn ceisio ehangu neu adleoli.
r amgylchedd lleol yw adnodd gorau Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac maen rhan holl bwysig o ansawdd bywyd y trigolion ac yn natblygiad llwyddiannus mentrau diwydiannol a thwristiaeth.
Mae polisïau effeithiol a rheolaeth datblygiad sensitif yn sicrhau cydbwysedd rhwng datblygiad a gwarchod yr amgylched. Yr amcan yw sicrhau y bydd newidiadau angenrheidiol yn parchu ac yn cyfannu cymeriad yr ardal.
Mae gan ardal Wrecsam dirwedd gyfoethog gydag ardaloedd amrywiol o gefn gwlad syn ymestyn dros Mynydd Rhiwabon a Mynyddoedd y Berwyn at ddyffrynnoedd Dyfrdwy a Cheiriog ar iseldir amaethyddol. Maer dirwedd amrywiol hon yn cynnal amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a chynefinoedd. Mae ambell gynefin megis corsydd mawndir iseldir a rhostiroedd uwchdir yn brin yn genedlaethol. Mae cynefinoedd eraill megis coetiroedd, llynnoedd, gwrychoedd a choridorau afon, er eu bod yn niferus, yn ffurfio fframwaith amgylcheddol hanfodol y Fwrdeistref Sirol.
Mae olion archeolegol yn rhan bwysig o dreftadaeth y Fwrdeistref Sirol ac maent yn gofnod o hanes a diwylliant yr ardal leol. Maent yn bwysig am y wybodaeth maent yn eu rhoi am y gorffennol ac am eu rôl mewn addysg, hamdden a thwristiaeth.
Deilliodd Datblygiad Cynaliadwy o raglen weithredu ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain a gytunwyd arni gan arweinyddion y byd yng Nghynhadledd y Byd yn Rio yn 1992. Amcan y rhaglen yw gwella ansawdd bywyd i ni ein hunain ac ar gyfer cenedlaethau i ddod, drwy ganolbwyntio ar faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Cefnogir rhaglen Datblygiad Cynaliadwy Wrecsam gan amrywiaeth eang o fudiadau, unigolion a phrosiectau amrywiol syn weithredol ac maent yn cael eu datblygu o hyd. Mae busnesau, grwpiau gwirfoddol, ysgolion a cholegau a phobl leol yn archwilio ailgylchu, cludiant gwyrdd, planhigion a bywyd gwyllt lleol, Masnachu Teg, bwyta iach, clytiau go iawn ac ynni adnewyddol.
Drwy weithion galed byddwn yn cynorthwyo i wneud y Fwrdeistref Sirol yn le mwy gwyrdd fyth i fyw ynddi.
Cysylltiadau perthnasol:
Mwy Gwybodaeth Amgylchedd | Datblygiad Cynaliadwy | Safleoedd Aigylchu