Iechyd
Da Ysbyty Maelor Wrecsam yw'r ysbyty ar un safle mwyaf yng Ngogledd Cymru gyda thros 700 gwely. Mae'n darparu ystod eang o wasanaethau clinigol gan gynnwys Uned Ddamweiniau ac Argyfwng a thriniaethau meddygol a llawfeddygol argyfwng ac wedi'u cynllunio, gwasanaethay mamolaeth a gofal iechyd meddwl.
Mae arbenigrwydd llawdriniaethol yn cynnwys trawma ac orthopedig, wroleg a gwaedlestrol, clust, trwyn a gwddf, offthalomeg a gynecoleg tra bod rhewmatoleg, dermatoleg, cardioleg a meddygaeth ir henoed ymysg yr ystod cynhwysfawr o arbenigedd meddygol a ddarperir. Mae Canolfan Iechyd Plant newydd Wrecsam yn dod â nifer o wasanaethau plant at ei gilydd, gan gynnwys iechyd plant, datblygiad a gwarchod.
Maer Ysbytyn allbost academaidd ar gyfer gwasanaethau arennol Coleg Meddygaeth Ysbyty Prifysgol Cymru ac maen ymwneud ag ystod o weithgareddau ymchwil yn Athrofa Feddygol a Chanolfan Astudiaethau Iechyd Wrecsam gyfagos. Gerllawr Ysbyty mae Prifysgol Cymru Bangor hefyd yn rheoli Colegau Nyrsio a Bydwreigiaeth a Radiograffeg.
Cyflawnir gweithgareddaur ysbyty gan ddatblygiad cwmnïau meddygol a fferyllol tra arbenigol yn y Parc Technoleg cyfagos.
Mae gan Wrecsam hefyd ysbyty preifat Ysbyty BUPA Iâl, sydd y drws nesaf i Ysbyty Maelor Wrecsam.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau iechyd eraill i hyrwyddo iechyd gwell yn y gymuned. Maer Cyngor hefyd wedi cydlynu cynllunio prosiectau gyda gweithwyr iechyd proffesiynol ar sector gwirfoddol i ddatblygu blaengareddau syn unigryw i Wrecsam. Mae gan y Cyngor unedau arbennig wediu lleoli yn Ysbyty Maelor Wrecsam gan gynnwys y Tîm Iechyd ac Anableddau Plant ar Gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol Ysbyty i Oedolion.
Maer Awdurdod Lleol yn ymroddedig i gyflenwi gwasanaethau effeithiol ac effeithlon syn cwrdd â gofynion y gymuned o ran ansawdd a bod yn fforddiadwy. Trwy weithio gydar gymuned ai phartneriaid maer Cyngor bob amser yn ceisio cwrdd â gofynion a disgwyliadau ei drigolion ai gwsmeriaid.
Tyr Eos yw Hosbis a Chanolfan Gefnogi Canser Wrecsam. Maen darparu Hosbis, a adeiladwyd yn bwrpasol, gan gynnig gofal i glaf mewn ysbyty a chleifion allanol a chyfleusterau gofal dydd yn ogystal â chwnsela a chefnogaeth i gleifion au teuluoedd.
Mae gofal cleifion yn rhad ac am ddim. Mae gan yr Hosbis adran 16 gwely ar gyfer cleifion, cyfleusterau gofal dydd ar gyfer hyd at 15 claf yn ddyddiol, ffisiotherapi a hydrotherapi, clinig cleifion allanol a lymffedema, ynghyd â chefnogaeth cynghori, ysbrydol, ac addysgol amrywiol a gyflenwir gan staff tra hyfforddedig ac ymroddgar.
Dawr rhan fwyaf o arian cynnal Tyr Eos o gyfraniadau gwirfoddol ac mae ymdrechion codi arian lleol yn dangos haelioni a charedigrwydd anhygoel pobl leol.
Cysylltiadau perthnasol:
Her Iechyd Wrecsam | Sut i gyrraedd Ysbyty Maelor | Cysylltiadau i Ysbyty Maelor | Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Ddwyrain Cymru