HamddenaMae'n hawdd dewis fford iach o fyw yn Wrecsam a chymryd rhan mewn gweithgaredd rheolaidd. Mae nifer o gyfleusterau modern ledled y Fwrdeistref Sirol gan gynnwys wyth canolfan hamdden, stadiwm athletau rhyngwladol, hifer o gyrsia golff, dros 100 maes chwaraeon, Canolfan Tennis Gogledd-ddwyrain Cymru ynghyd â chanolfannau iechyd a ffitrwydd.
Maer Byd Dwr gydai do siâp cyfrwy amlwg arobryn wedii
leoli yng nghanol y dref. Maer ganolfan hamdden yn cynnwys pwll
nofio chwe lôn, pwll dysgwyr, reid rafftio, pwll hamdden afon araf
a sba o fewn ei gyfadail nofio. Mae gan y cyfleuster hamdden cyffrous
hwn ystafell ffitrwydd ac ystafell iechyd gyda chyfarpar llawn ynghyd
â sawna, ystafell stêm a jacuzzi.
Ewch
i weld y Lagwn Trofannol yng Nghanolfan Hamdden Plas Madoc syn le
delfrydol ar gyfer y teulu i gyd. Maer Lagwn yn cynnwys llithrennau
(Llithren Troelli 60m a Llithren Sarff ir Plant) a pheiriant creu
tonnau i ychwanegu at yr hwyl. Gall y plant fwynhau man chwarae meddal
y Chwaraefa Drofannol.
Trefnir nifer o gyrsiau mewn sawl camp drwy gydol y flwyddyn, yn ogystal â digwyddiadau a chystadlaethau arbennig. Er enghraifft, Triathlon Wrecsam, Cystadleuaeth Lloeren y Gymdeithas Tennis Lawnt yn y Ganolfan Tennis, digwyddiadau athletau pwysig a chystadlaethau rhanbarthol tennis bwrdd, badminton, cleddyfa a karate.
Cynhelir gemau Rygbir Undeb a Rygbi Cynghrair rhyngwladol a gemau pêl-droed yn Stadiwm Clwb Pêl-droed Wrecsam a chynhaliwyd gemau Cwpan y Byd ym mhob un or tair camp yno.
Maer Fwrdeistref Sirol yn gartref i Gae Ras Bangor Is-coed. Maer cae ras cyfeillgar hwn yn un o ddau yn unig yng Nghymru ac mae mewn man godidog ar orlifdir afon Dyfrdwy. Mae afon Dyfrdwy yn un o afonydd eog gorau Cymru.
Gallwch hwylio ar y Flash ac mae nifer o glybiau bwrddhwylio, gleidio a chrogleidio yn yr ardal.
Mae chwe pharc gwledig yn cynnig mynediad i gefn gwlad rhagorol. Gallwch fwynhau mynd am dro drwyr coetiroedd prydferth, crwydro glannau afonydd Clywedog a Dyfrdwy neu ymweld â Thraphont Cefn a Thraphont Ddwr Pontcysyllte odidog.
Maer
pob parc gwledig yn unigryw: Mae gan Barc Gwledig Dyfroedd Alun ganolfan
ymwelwyr, man chwarae mawr a rhwydwaith beiciau ardderchog. Mae gan Barc
Gwledig Ty Mawr gasgliad o anifeiliaid a golygfeydd gwych o Ddyffryn Llangollen;
Mae Canolfan Ymwelwyr Melin y Nant yn swatio mewn cwm coediog serth gyda
chyfleusterau picnic ardderchog a llwybrau coetir ar hyd glannau afon
Clywedog.
Parc Gwledig a Phyllau Plwm Mwynglawdd ywr adwy i Lwybr Clywedog syn wyth milltir o hyd ac yn rhoi mynediad i dir cerdded rhagorol. Mae Parc Stryt Las a Pharc Gwledig Bonc yr Hafod yn gartref ir madfall gribog fawr. Ceir golygfeydd gwych o Wrecsam a Mynydd Rhiwabon godidog os cerddwch i ben y bryn.
Pa un ai coedydd, dolydd, afonydd ynteu llynnoedd syn dwyn eich bryd, maent i gyd ar gael ym mharciau gwledig Wrecsam.
Ir rhai anturus mae Wrecsam yn cynnig, gyrru cerbydau gyriant 4
olwyn drwy dir garw, canwio, marchogaeth, gemau rhyfel peli paent a llawer
mwy.
Dim ond taith awr mewn car o Wrecsam ac rydych ym Mharc Cenedlaethol Eryri, un o barciau cenedlaethol enwocaf a godidocaf y DU. Mae Eryrin cynnig posibiliadau di-rif ar gyfer gweithgareddau awyr agored, ac ynghyd â gweddill Gogledd a Chanolbarth Cymru ac ardaloedd cyfagos Gogledd-orllewin Lloegr, maen rhaid bod yr ardal yn darparu ar gyfer pob math o weithgaredd awyr agored.
Mae Wrecsam yn cynnal Gwyl Gelfyddydau reolaidd, maen croesawu Rali Ceir Cymru ac mae hefyd yn gartref i wyl Wyddoniaeth Wrecsam.
Mae
Llyfrgelloedd Wrecsam yn darparu amgylchfyd cyffrous ar gyfer astudiaeth
anffurfiol a darllen adloniadol.
Maer llyfrgell ganolog yn Wrecsam yn darparu amrediad eang o ddeunyddiau benthyca ar gyfer pob oed a mynediad cynorthwyedig at ffynonellau gwybodaeth. Ceir hefyd rhwydwaith o lyfrgelloedd cymuned a gwasanaeth llyfrgell teithiol yn gwasanaethu pentrefi llai ac ardaloedd gwledig. Maer gwasanaeth cyswllt cartref ar gael i bobl syn gaeth iw tai.
Mae canolfannau dysgu gydol oes yn cael eu sefydlu ym mhob llyfrgell, gan ddarparu mynediad am ddim ir Rhyngrwyd drwy Rhwydwaith y Bobl ar cyfle i ddefnyddio cyfrifiaduron ar gyfer astudio ac adloniant. Mae amrediad o ddeunyddiau astudio a CD-ROM au ar gael iw benthyca a gwneud defnydd cyfeiriol ohonynt.
Ceir gwasanaethau gwybodaeth wediu targedu yn Llyfrgell Wrecsam, gan gynnwys gwasanaeth gwybodaeth fusnes Linell Fusnes gwerth ychwanegol, Canolfan Wybodaeth Ddemocrataidd syn darparu cyhoeddiadau Ewropeaidd, Seneddol, ar Cynulliad Cenedlaethol ar Ganolfan Wybodaeth am Blant syn darparu gwybodaeth i rieni a gofalwyr.
Cysylltiadau perthnasol:
Mwy Gwybodaeth Hamdden | Llyfrgelloedd | Parc Gwledig | Cerdded