Teithio a Chludiant

Teithio a Chludiant

Mae Wrecsam yn agos at union ganol y DU ac mae wedi ei lleoli mewn lle i genfigennu wrthi yng nghornel gogledd-ddwyreiniol eithaf Cymru, nid nepell o'r ffin gyda Lloegr.

Mae’r dref wedi ei lleoli ar ymyl y gororau enwog ac o fewn taith hawdd i’r arfordir, creigiau geirwon Eryri a rhannau o gefn gwlad mwyaf deniadol Lloegr.

Mae Wrecsam mewn safle cyfleus, o fewn taith dwy awr o draean poblogaeth y DU a hanner ei diwydiannau gweithgynhyrchu.

Nid yw dinas hynafol Caer ond 12 milltir draw a gellir cyrraedd dinasoedd Lerpwl a Manceinion o fewn yr awr. Mae lleoliad canolog Wrecsam hefyd yn ei gwneud yn lleoliad delfrydol ar gyfer y rhai sydd am gael at bob peth sydd gan Ogledd Cymru, y Gogledd-orllewin a Gogledd y Canolbarth i’w gynnig.

Ffyrdd

Gallwch gyrraedd Wrecsam ar hyd ffordd gyswllt yr A483 o’r de o’r A5 a’r M54 ac o’r gogledd o’r M53 a’r M56. Mae’r traffyrdd hyn yn eu tro yn arwain at yr M62, y prif ffordd Dwyrain/Gorllewin, a’r M6, y prif ffordd Gogledd/De Lloegr.

Mae lleoliad Wrecsam ar gyrion ardal gweithgynhyrchu Gogledd-orllewin y DU, yn golygu bod amseroedd teithiau i ganolfannau gweithgynhyrchu yn rhyfeddol o fyr. Dim ond chwarter awr y mae’n ei gymryd i gyrraedd dinas Caer mewn car.

Gyda Thrên

Mae gan Wrecsam ddwy orsaf Reilffordd, Wrecsam Ganolog a Chyffredinol. Mae gan y ddwy orsaf gysylltiadau uniongyrchol i’r rhwydwaith rheilffordd genedlaethol ac mae teithiau i Lundain trwy Crewe yn cymryd 3 awr 11 munud a dim ond 2 awr 40 munud yw’r daith o Gaer gyfagos.

Gydag Awyren

Mae Wrecsam yn agos at ddau faes awyr rhanbarthol, Maes Awyr John Lennon, Lerpwl a Maes Awyr Rhyngwladol Manceinion.

Cysylltiadau perthnasol:

Mapiau Wrecsam | Mapiau Canol Tref Wrecsam | Cysylltiadau Cludiant

yn ôl i'r brig