Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn berchen ar ac yn cynnal dau ddeg pedwar o ganolfannau cymunedol o fewn cymunedau lleol ledled Wrecsam. Cânt eu defnyddio gan bobl leol, sefydliadau a darparwyr gwasanaethau'r cyngor ar gyfer pob math o weithgareddau a digwyddiadau.
Rydym yn cynnig neuaddau o faint amrywiol ar gyfer cyfarfodydd mawr, digwyddiadau i godi arian a gweithgareddau ar gyfer grwpiau gwirfoddol.
Mae'r grwpiau sy'n hurio gennym yn cynnig pob math o weithgareddau o folddawnsio arabaidd i ddosbarthiadau allanol Coleg Iâl.
Croesewir grwpiau o blant i'r canolfannau, a byddant yn mynychu sesiynau actif 8, Jo Jingles, mam a'i phlentyn a chylchoedd chwarae tra bod oedolion ifanc yn mwynhau clybiau ieuenctid mewn canolfannau amrywiol. Cynhelir cynlluniau chwarae yn rhai o'r canolfannau yn ystod gwyliau'r haf.
Mae'r ganolfan gynghori (dolen gyswllt allanol), cynghorau cymuned, cymdeithas y trigolion a'r thenantiaid, cynghorwyr wardiau ac AauS yn cynnal cyfarfodydd yn rhai o'r canolfannau.
Rydym hefyd yn cynnig lolfeydd neu ystafelloedd cyfarfod llai ar gyfer grwpiau llai o bobl. Gallwn ddarparu uwch daflunydd, offer teledu/fideo a siartiau troi drosodd ar gais.
Mae gan yr holl ganolfannau gyfleusterau cegin er mwyn rhoi lluniaeth a gall rhai canolfannau ddarparu ar gyfer bwydlen fwy.
Ar hyn o bryd rydym yn darparu neuaddau i grwpiau amrywiol, er enghraifft cyrsiau dysgu gydol oes, cynghorau cymuned, cylchoedd chwarae, grwpiau pobl hyn, clybiau ieuenctid, clybiau crefft, grwpiau Iechyd a ffitrwydd, meddygfeydd a swyddfeydd post ac rydym yn cynnig gostyngiad yn y prisiau hurio i'r rheini sy'n neilltuo lle'n rheolaidd.
Gall grwpiau a sefydliadau ymgeisio am brisiau rhestredig is o 25% ar gyfer digwyddiadau a sefydliadau elusennol ac ar gyfer codi arian yn lleol.
Gellir hefyd hurio canolfannau ar gyfer un cyfarfod neu achlysur penodol.