Am Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam
Gwybodaeth, cyngor a chymorth am ddim ar gyfer:
- Rhieni a gofalwyr plant a phobl ifanc rhwng 0 ac 19 oed
- Lleoliadau gofal plant a’u gweithluoedd
- Cyflogwyr a gweithwyr
- Gweithwyr iechyd, addysg a gofal cymdeithasol proffesiynol sy'n gweithio gyda theuluoedd
- Sefydliadau ac asiantaethau sy’n cefnogi rhieni a theuluoedd
Gofynnwch i ni am:
- Gofal plant a chostau gofal plant
- Pethau i'w gwneud ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam
- Iechyd plant
- Datblygiad ac ymddygiad plant
- Cydbwysedd Bywyd Gwaith
- Addysg
- Bwydo ar y Fron
- Hyfforddiant poti
- Diogelwch plant
- Bwlio
- Camddefnyddio cyffuriau ac alcohol
- a llawer mwy
Mae cyngor a chymorth cyfeillgar ar gael i helpu:
- rhieni di-waith i oresgyn y rhwystrau y maent yn eu hwynebu pan fyddant am ddysgu sgiliau newydd neu ddychwelyd i'r gwaith;
- rhieni i ddod o hyd i hyfforddiant neu waith, gofal plant, cyllid ar gyfer hyfforddiant, gofal plant, teithio neu offer;
- rhieni sy’n gweithio a'u cyflogwyr i gael gafael ar wybodaeth ynglŷn â gwasanaethau a hawliau sydd ar gael iddynt;
- rhieni i gael mynediad at y gwasanaethau y maent eu hangen;
- rhieni ifanc (pobl ifanc 14-25 oed) gyda sgiliau personol, ymarferol a rhianta;
- rhieni plant anabl a phlant ag anghenion penodol i gael gafael ar wasanaethau.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant 2017 - 2022
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ddyletswydd statudol o dan Ddeddf Gofal Plant 2006 i sicrhau cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, ofal plant digonol ar gyfer plant rhwng 0 a 15 oed (a rhwng 15 a 17 oed yn achos plant anabl) i fodloni gofynion rhieni/gofalwyr sy'n gweithio, neu rieni/gofalwyr sy'n ymgymryd ag addysg neu hyfforddiant a fydd yn arwain at waith.
Yn ganolog i’r ddyletswydd hon mae’r angen i gwblhau Asesiad O Ddigonolrwydd Gofal Plant (ADdGP) bob pum mlynedd, sy'n asesu’r ddarpariaeth, a’r galw am ofal plant yn ardal yr awdurdod lleol ac yn nodi bylchau yn y ddarpariaeth. Mae argymhellion o’r ADdGP ac adolygiadau blynyddol dilynol yn cael eu defnyddio i ddatblygu cynllun gweithredu, sy’n nodi’r camau gweithredu y bydd yr awdurdod lleol a'i bartneriaid yn eu cymryd er mwyn cyflawni eu goblygiadau o ran rheoli marchnad. Amcan yr ADdGP yw nodi bylchau yn y ddarpariaeth gofal plant a nodi camau gweithredu er mwyn lleihau'r bylchau hyn gan symud tuag at sefyllfa o 'ddigonolrwydd' ar draws y Fwrdeistref Sirol.