Mae ein hasiantaeth gosod tai cymdeithasol mewnol wedi bod yn gweithredu ers 2015, gan weithio gyda landlordiaid i helpu creu tenantiaethau cynaliadwy ar gyfer aelwydydd gydag angen o ran tai a gwella safonau ar draws y fwrdeistref.

Drwy osod tai gyda ni, byddwch yn helpu aelwydydd lleol gydag angen o ran tai i ddod o hyd i gartrefi. Rydym yn cydnabod y gallai rhai perchnogion eiddo fod naill ai wedi profi anawsterau personol, neu gael gwybod am yr anawsterau, wrth osod i’n grwpiau targed yn y gorffennol. Gan ystyried hyn, rydym wedi datblygu pecyn o fuddion i leddfu’r pryderon hynny.

Rydym bob amser yn chwilio am eiddo newydd, o ansawdd da. Os ydych yn fuddsoddwr newydd gydag un eiddo, neu’n osodwr proffesiynol sefydledig gyda phortffolio mawr, hoffem weithio gyda chi.

Pam ddylwn i ymuno?

Os ydych yn ymuno, cynigir ffynhonnell barhaus o denantiaid, gan sicrhau deiliadaeth ac incwm rhenti mor uchel â phosibl i chi.

Mae gan ein tîm brofiad helaeth o reoli tenantiaethau cymdeithasol a phreifat. Rydym yn ymfalchïo yn ein sylw i fanylion, a phan fyddwch yn dod yn landlord gyda ni, cewch fynediad at ein cyfoeth o wybodaeth a chysylltiadau lleol, a’ch rheolwr eiddo eich hun.

Rydym yn gweithredu mewn modd tebyg i Asiantaeth Osod Stryd Fawr, ond nid ydym yn cael ein cymell gan elw, mae ein ffioedd yn is nac Asiantaethau Stryd Fawr ac rydym yn cynnig pecynnau gosod hyblyg.

Geirdaon

“Mae bond CBSW yn system dda; mae’n cefnogi tenantiaid i sicrhau eiddo y gallent fod wedi cael trafferth gyda nhw fel arall. Mae’r bond yn cynnig sicrwydd i’r landlord ac mae’n rhaid i’r broses hawlio, lle bo’i angen, fod yn gyflym ac yn effeithlon.” - Zac Williams, landlord lleol yn Wrecsam.

“Mae Asiantaeth Gosod Tai Lleol CBSW wedi rheoli fy eiddo ers 2015. Byddwn yn eu hargymell yn fawr ac felly hefyd cynllun bondiau blaendal CBSW - maent yn effeithlon, trylwyr ac yn help mawr iawn.” - Christine Skellon, landlord lleol yn Wrecsam.

Cysylltwch â ni

Os oes diddordeb gennych mewn gweithio gyda ni ar y cynllun, gallwch gysylltu â thîm ein hasiantaeth gosod tai lleol drwy anfon e-bost i locallettings@wrexham.gov.uk.

Tanysgrifiwch i’n newyddlen e-bost

Ymunwch â'n rhestr bostio i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan ein tîm.

Tanysgrifio