Penodir
y Bwrdd Gweithredol i gyflawni holl swyddogaethau’r Cyngor nad ydynt yn
gyfrifoldeb unrhyw ran arall o’r Cyngor, boed hynny yn ôl y Gyfraith neu o dan
y Cyfansoddiad hwn.
Bydd y Bwrdd Gweithredol yn cynnwys Arweinydd y Cyngor (yr “Arweinydd”)
ac o leiaf ddau ond dim mwy na naw Cynghorydd arall a benodir i’r Bwrdd
Gweithredol gan y Cyngor.
Mae cylch gorchwyl y Bwrdd Gweithredol
wedi ei nodi yng Nghyfansoddiad y Cyngor. Yn ei Gyfarfod Blynyddol ar 24 Mai
2006, adolygodd y Cyngor ei drefniadau cyfansoddiadol
i ganiatáu i Arweinydd y Cyngor benodi Aelodau o'r Bwrdd Gweithredol
i rolau
arweiniol.
Mae cyfle ym mhob cyfarfod arferol o’r
Bwrdd Gweithredol i aelodau’r cyhoedd ofyn cwestiynau
a gwneud datganiadau sy'n berthnasol i feysydd y mae ganddo gyfrifoldebau
gweithredol amdanynt.
Swyddog cefnogi: Gwasanaethau Pwyllgor.
E-bost: committees@wrexham.gov.uk