Mae ein Hadran Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn gweithio gyda phobl i wella eu lles. Rydym eisiau helpu pobl pan fyddant yn poeni am eu lles eu hunain neu les rhywun arall.

Gwybodaeth, cyngor a chymorth

Pan fydd rhywun yn cysylltu â ni gyntaf, bydd un o’n staff hyfforddedig yn gofyn nifer o gwestiynau er mwyn dysgu mwy am sefyllfa’r unigolyn (neu’r unigolion y maent yn ffonio ar eu rhan). Gall hyn ein cynorthwyo i ddarganfod pa fath o gefnogaeth fyddai fwyaf defnyddiol.

Ein man cychwyn yw rhoi digon o wybodaeth i bobl i fodloni eu gofynion personol eu hunain, ac i wneud eu cynlluniau gofal a chymorth eu hunain. Mae yna ddolenni i sefydliadau sydd yn darparu cyngor a chymorth ar ein tudalennau gwe.

Gellir bodloni anghenion gofal cymdeithasol llawer o bobl gan wasanaethau a gweithgareddau sy’n cael eu darparu’n lleol. Ein nod yw dweud wrth bobl pa gymorth sydd ar gael iddynt yn eu cymunedau eu hunain. 

Asesiadau

Yn ogystal â sicrhau bod gwybodaeth, cyngor a chymorth ar gael i ddinasyddion Wrecsam i helpu hyrwyddo eu lles, mae’n rhaid i ni gynnig asesiad os ydym ni’n gwybod neu’n meddwl am rywun sydd angen gofal a chymorth, neu os bydd gofalwr angen cymorth.

Gall asesiad helpu i weld os oes gan unigolyn anghenion gofal a chymorth, a phenderfynu os ydynt yn gymwys i gael cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol. Gallwn hefyd gynnal asesiad os ydym ni’n meddwl fod unigolyn mewn perygl o niwed, camdriniaeth neu esgeulustod.

Tra byddwn yn cynnal asesiad, byddwn yn siarad gyda chi a’ch teulu ynglŷn â’r hyn sy’n bwysig i wella eich bywyd a’ch lles. Yn ogystal â siarad am yr anawsterau rydych chi’n eu profi, mae’n bwysig ein bod yn darganfod beth yw eich cryfderau a’ch gallu a beth sy’n gweithio’n dda yn eich bywyd.

Yna gallwn eich helpu i benderfynu pa ganlyniad rydych chi’n gobeithio ei gyflawni gyda’n help ni, ac os yw’n briodol, cytuno ar gynllun gofal a chymorth sydd yn bodloni eich anghenion lles orau. 

Costau am wasanaethau

Efallai y bydd yna gost am rai gwasanaethau sy’n cael eu darparu, neu efallai y byddwn ni’n gofyn i bobl dalu tuag at ran o’u gofal a chymorth.

Mae yna reoliadau cenedlaethol o ran pwy sydd yn gorfod talu, yr uchafswm y gall Cyngor ei godi a’r amgylchiadau pan na caiff Cyngor godi tâl am wasanaethau y mae’n eu darparu. Felly cyn i ni ddarparu gwasanaethau penodol, maen rhaid i ni gynnal asesiad ariannol. Caiff yr asesiad yma ei gynnal i ganfod faint o incwm neu gynilion sydd gan yr unigolyn, er mwyn gwneud penderfyniad teg o ran faint bydd rhaid i’r unigolyn hwnnw ei dalu.

Byddwn yn rhoi gwybod i’r unigolyn am unrhyw gostau cyn i ni ddechrau darparu gwasanaeth. Yn aml, dim ond am gyfnod byr y bydd angen y gofal a’r cymorth rydym yn ei ddarparu, nes bydd modd i’r unigolyn fagu hyder a meithrin sgiliau i reoli ar eu pen eu hunain neu gyda chymorth pobl eraill. 

Sut i wneud cais am asesiad

I wneud cais am asesiad, gallwch anfon e-bost at AdultsSPOA@wrexham.gov.uk neu ffonio 01978 292066.  

Ymholiadau Cyffredinol

Gallwch gysylltu â ni gydag ymholiadau cyffredinol ynghylch gofal cymdeithasol i oedolion trwy e-bostio AdultsSPOA@wrexham.gov.uk neu ffonio 01978 292066. 

Y tu allan i oriau swyddfa, gallwch ffonio 0345 05331169 (cyn 8:30am ac ar ôl 5pm dydd Llun i ddydd Iau, a cyn 8:30am ac ar ôl 4:30pm ar ddydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc). 

Os ydych yn credu fod rhywun mewn perygl o niwed difrifol, cysylltwch â’r heddlu ar 999.