Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hysbysebu

Canllaw Cynllunio Lleol Rhif. 31 Yr Iaith Gymraeg a Chymunedau Cymraeg

Mae'r nodyn cyfarwyddyd hwn yn amlygu'r amcanion cenedlaethol a lleol ac yn manylu ar bolisïau'r cynllun datblygu sydd yng Nghynllun Datblygu Unedol Wrecsam sydd â'r bwriad o warchod y Gymraeg a chymunedau Cymraeg. Mae'n rhoi cyfarwyddyd ynghylch sut y bydd y Cyngor yn pwyso a mesur yr effaith debygol a gaiff datblygiadau perthnasol yn y dyfodol, yn unigol neu yn gynyddol, ar les yr iaith Gymraeg a chymunedau Cymraeg. Bydd y nodyn hwn yn ystyriaeth berthnasol pan fydd yr holl geisiadau cynllunio perthnasol am ddatblygu yn cael eu penderfynu.

Cyflwyniad

Fe gynghorir awdurdodau cynllunio lleol i beidio â chamwahaniaethu yn erbyn unigolion ar sail eu gallu ieithyddol na rheoli eu meddiannaeth ar dai am resymau ieithyddol. Bydd lles y Gymraeg yn lleol a'i chyfraniad at dreftadaeth ddiwylliant Cymru a'r Gymraeg at y dyfodol yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau allweddol fel addysg, newid demograffig a gweithgareddau cymunedol yn ogystal â ffyniant economaidd. Gall y system gynllunio hefyd gymryd i ystyriaeth anghenion a buddiannau'r iaith Gymraeg a'i lles trwy atal datblygiadau a allai gael effaith niweidiol sylweddol.

Gall 20.8% o boblogaeth Cymru siarad Cymraeg. Yn y Fwrdeistref Sirol mae'r ffigur hwn yn cyfrif am 14% o'r boblogaeth ac maent wedi eu lleoli, gan mwyaf, yn y wardiau hyn:

Cyd-destun a Chyfarwyddyd Polisi Cynllunio

Mae gofynion y polisi cynllunio cenedlaethol wedi eu cynnwys ym Mholisi Cynllunio Cymru (Mawrth 2002) ac yn Nodyn Cyngor Technegol 20 Yr Iaith Gymraeg (Mehefin 2000). Mae cyfarwyddyd hefyd wedi ei gynnwys yn Cynllunio a'r Iaith Gymraeg - y Ffordd Ymlaen (Rhagfyr 2005).

Mae polisïau lleol wedi eu cynnwys yng Nghynllun Datblygu Unedol Wrecsam. Bydd y cynigion datblygu yn cael eu pwyso a'u mesur ar gyfer yr effaith debygol a gânt ar y Gymraeg ac ar gymunedau Cymraeg o dan Bolisi GDP1, maen prawf g), sy'n dweud y dylai'r holl ddatblygu newydd:

Datganiad Effaith ar y Gymraeg a'r Gymuned Gymraeg

O ran y trothwyau datblygu penodol sydd yn wardiau ieithyddolsensitif Dyffryn Ceiriog, Pant, Ponciau, Coedpoeth, Johnstown, Pen-y-Cae a Mwynglawdd bydd yn rhaid cael Datganiad Effaith ar y Gymraeg a'r Gymuned Gymraeg ar gyfer y
datblygiadau canlynol mewn perthynas â'r holl geisiadau perthnasol - amlinellol, llawn a newid defnydd:

a) pob un o'r ceisiadau preswyl am 25 uned neu ragor;

b) pob un o'r cynigion cyflogaeth o 2ha neu ragor neu'r rhai hynny sy'n creu mwy na 50 swydd;

c) pob un o'r datblygiadau manwerthu sy'n fwy na 2,000 metr sgwâr; neu

ch) ddatblygiadau eraill sy'n darparu, yn unigol neu'n gynyddol, ar gyfer llawer rhagor na dim ond anghenion lleol yn unig; sy'n gymharol fawr o gymharu â galw'r farchnad leol neu a fydd yn denu mewnlifiad cymharol sylweddol o bobl ddi-Gymraeg.

Yn y wardiau ieithyddol-sensitif fe gyfyngir ar ddatblygu sydd, yn unigol neu'n gynyddol, yn debygol o gael effaith niweidiol sylweddol ar anghenion, buddiannau a lles y Gymraeg a'i hunaniaeth.

Pwrpas y Datganiad Effaith ar y Gymraeg a Chymunedau Cymraeg yw caniatáu'r Cyngor i gadw golwg ar y datblygu sy'n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr iaith a'r gymuned. Bydd hyn yn cynorthwyo i benderfynu pa gamau y gellid eu sefydlu i leihau'r effaith (amodau cynllunio neu gytundebau cyfreithiol adran 106) ar yr iaith a'r gymuned. Bydd hefyd yn gadael i'r Cyngor benderfynu a fyddai'r cynnig yn cael cymaint o effaith ar yr iaith a'r gymuned, fel y byddai hynny'n cyfiawnhau gwrthod neu ganiatáu'r cynnig.

Hyd yn oed os nad yw'r cynnig datblygu ynddo'i hun yn bodloni'r angen am ddatganiad effaith cymunedol ac ieithyddol (maen prawf a) - c) paragraff 3.1), dylai'r datblygwyr fod yn ymwybodol (maen prawf ch) paragraff 3.1) o'r effaith gynyddol bosibl y gallai eu datblygiad ei gael ar yr iaith Gymraeg a'r cymunedau Cymraeg pan maent yn rhoi eu cais gerbron, a bydd gofyn iddynt gymryd i ystyriaeth unrhyw ddatblygiadau diweddar, perthnasol eraill yn y wardiau hyn.

Dylai'r datganiad drin a thrafod y materion allweddol a ddangosir yn Ffigur 1 isod. Ni fwriedir i'r rhestr fod yn rhestr sy'n cynnwys yr holl ystyriaethau ac efallai y bydd rhagor neu lai o faterion y dylid eu hystyried. Bydd hynny'n dibynnu ar natur unigol pob cais.

Ni fydd gwerthuso'r datganiad effaith ar y Gymraeg a'r Gymuned Gymraeg yn arwain at ddadansoddiad diffiniol ac nid yna ei fwriad. Fodd bynnag dylai arwain at benderfyniad mwy cytbwys ynghylch yr effaith a gaiff y datblygiad ar yr agweddau cymdeithasol ac ieithyddol ar fywyd y cymunedau yn wardiau Cymraeg y Fwrdeistref Sirol. Bydd canlyniadau'r
datganiad ac unrhyw esboniadau a ddaw yn ei sgil, ynghyd ag amrywiaeth o bolisïau cynllun datblygu cenedlaethol a lleol eraill, yn cynorthwyo'r broses benderfynu a sicrhau y ceir datblygiad cynaliadwy.

Datganiad Effaith ar y Gymraeg a Chymunedau Cymraeg

1. Eglurwch, â thystiolaeth, sut mae'r datblygiad yn effeithio ar y Boblogaeth a dylech sôn am y canlynol:

2. Eglurwch, â thystiolaeth, sut mae'r datblygiad yn effeithio ar Dai i bobl leol a dylech sôn am y canlynol:

3. Eglurwch, â thystiolaeth, sut mae'r datblygiad yn effeithio ar Economeg y gymdogaeth a dylech sôn am y canlynol:

4. Eglurwch, â thystiolaeth, sut mae'r datblygiad yn effeithio ar Addysg y gymdogaeth a dylech sôn am y canlynol:

5. Eglurwch, â thystiolaeth, sut mae'r datblygiad yn effeithio ar Seilwaith y gymdogaeth a dylech sôn am y canlynol:

6. Unrhyw ystyriaethau Cyffredinol eraill (â thystiolaeth):