Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hysbysebu

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Dynodwyd ar 22 Tachwedd 2011

Mae harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Mynydd Esclys a Rhiwabon, Dyffryn Dyfrdwy a Chastell y Waun wedi cael eu cydnabod yn ffurfiol trwy eu cynnwys yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Cadarnhawyd y dynodiad gan Lywodraeth Cymru ar 22 Tachwedd 2011 ac yn ffurfio estyniad i AHNE Bryniau Clwyd a ddynodwyd yn 1985.

Mae’r dynodiad yn cydnabod bod gan sir Wrecsam rai o’r tirluniau gorau yn y Deyrnas Unedig ac mae’n gosod rheolau cynllunio statudol yn eu lle a chynllun rheoli i hybu cadwraeth a chyfoethogi harddwch naturiol yr ardal.

Rheoli Datblygu

Mae polisïau cynllunio Cynllun Datblygu Unedol Wrecsam wedi rhoi pwyslais cryf ar gadwraeth y tirwedd a chyfoethogi’r ardal ers 1996, yn cynnwys rheoli datblygu a fyddai’n effeithio ar gymeriad y tirlun a golygfeydd ac yn ei gwneud yn ofynnol cael
safon uchel o ddylunio a phlannu i sicrhau integreiddio i’r tirlun.

Nid yw dynodi’r ardal yn AHNE yn newid y dull yma o ymdrin â rheoli datblygu. Serch hynny, byddai unrhyw gynigion datblygu sylweddol yn cael eu harchwilio’n drwyadl i fesur eu heffaith potensial ar yr harddwch naturiol. Nawr bydd angen caniatâd cynllunio ar y cwmnïau cyfleustodau statudol hefyd ar gyfer mastiau telegyfathrebu a llinellau pŵer.

Mae rhai hawliau datblygu a ganiateir yn cael eu diddymu mewn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, ond mae’r broses Hysbysiad Amaethyddol yn parhau yr un fath.

Rheoli’r AHNE

Un o’r prif newidiadau i ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecam fydd Cynllun Rheoli’r AHNE. Datblygir hwn trwy’r Cyd-gyngor Ymgyngorol sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r gymuned leol a grwpiau â diddordeb. Ni fydd hwn yn rheoli sut y defnyddir tir, ond yn hytrach bydd yn nodi rhinweddau arbennig yr ardal ac yn ceisio mynd i’r afael â’r pwysau ar yr harddwch naturiol a chyfoethogi elfennau’r tirwedd megis gwrychoedd, waliau, coed a nodweddion bywyd gwyllt.

Mae’r gwaith o wneud y gwelliannau hyn yn cael ei wneud gan dirfeddiannwyr a grwpiau cymunedol â diddordeb yn y maes hwn, gydag arweiniad a chefnogaeth gan yr Uned AHNE, partneriaid Awdurdod Lleol a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.