Gallwch dalu am barcio gan ddefnyddio’r ap symudol JustPark, ond rhaid i chi gofrestru yn gyntaf.

Negeseuon atgoffa a hysbysu

Bydd JustPark yn anfon neges destun neu hysbysiad atoch i’ch atgoffa pryd y daw’ch amser parcio i ben – yn rhad ac am ddim. Os ydych angen rhagor o amser, mae’n hawdd ymestyn eich archeb gan ddefnyddio’r ap neu drwy anfon neges destun sydyn.

Cadw cofnod o’ch manylion parcio

Mae JustPark yn cadw cofnod o le rydych wedi parcio, pryd a faint wnaethoch dalu. Yn wahanol i beiriannau talu ac arddangos, mae JustPark yn cadw’ch hanes parcio llawn – gan gynnwys derbynebau TAW – yn ddigidol, fel y gallwch gael mynediad rhwydd at y wybodaeth hon yn ôl yr angen.

Cofrestru

Gallwch gofrestru â JustPark o flaen llaw neu yn y fan a’r lle yn y maes parcio, a byddwch wedi cofrestru ac yn barod i ddefnyddio’r gwasanaeth mewn ychydig funudau.

Sut i dalu

Gallwch dalu gan ddefnyddio’r ap symudol neu ar wefan JustPark (dolen gyswllt allanol).

I dalu ar yr ap:

  1. Ar ôl agor yr ap, rhowch gyfeirnod lleoliad y maes parcio (a welir ar yr arwydd JustPark).
  2. Dewiswch am faint yr ydych eisiau parcio.
  3. Pwyswch talu a chreu cyfrif (os nad ydych eisoes wedi cofrestru).
  4. Ychwanegwch rif cofrestru'ch cerbyd a'ch manylion talu.