Côd Ymddygiad i Aelodau

Pwyllgor Safonau

Penodi Aelod Annibynnol

Adroddiad Pwyllgor Safonau

Nid oes adroddiad ar gael ar hyn o'r bryd.


Rhan 1

Dehongli

mae "aelod" yn cynnwys aelod cyfetholedig onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall;

ystyr "aelod cyfetholedig", mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yw person nad yw'n aelod o'r awdurdod ond-

  • (a) sy'n aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor i'r awdurdod, neu
  • (b) sy'n aelod o unrhyw gyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor i'r awdurdod, ac sy'n cynrychioli'r awdurdod arno,

ac sydd â'r hawl i bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i'w benderfynu mewn unrhyw gyfarfod o'r pwyllgor neu o'r is-bwyllgor hwnnw;

ystyr "eich awdurdod" yw'r awdurdod perthnasol yr ydych chi'n aelod neu'n aelod cyfetholedig ohono;

ystyr "awdurdod perthnasol" yw-

  • (a) cyngor sir,
  • (b) cyngor bwrdeistref sirol,
  • (c) cyngor cymuned,
  • (ch) awdurdod tân ac achub a gyfansoddwyd drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(1) neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo,
  • (d) awdurdod Parc Cenedlaethol a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(2);

ystyr "cyfarfod" ("meeting") yw unrhyw gyfarfod -

  • (a) o'r awdurdod perthnasol,
  • (b) o unrhyw weithrediaeth neu fwrdd i'r awdurdod perthnasol,
  • (c) o unrhyw bwyllgor, is-bwyllgor, cyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor i'r awdurdod perthnasol neu unrhyw bwyllgor, is-bwyllgor, cyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor o'r fath i unrhyw weithrediaeth neu fwrdd i'r awdurdod, neu
  • (ch) y mae aelodau neu swyddogion yr awdurdod perthnasol yn bresennol ynddo ac eithrio cyfarfod grwp gwleidyddol a gyfansoddwyd yn unol â rheoliad 8 o Reoliadau Llywodraeth Leol(Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990(3),

ac mae'n cynnwys amgylchiadau pan fo aelod o weithrediaeth neu fwrdd neu swyddog sy'n gweithredu ar ei ben ei hun yn arfer un o swyddogaethau awdurdod;

ac ystyr "chi" yw chi fel aelod neu aelod cyfetholedig o awdurdod perthnasol.

Mewn perthynas â chyngor-cymuned, mae cyfeiriadau at swyddog monitro awdurdod a phwyllgor safonau awdurdod i'w darllen, yn y drefn honno, fel cyfeiriadau at swyddog monitro ac at bwyllgor safonau'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol y mae ganddo swyddogaethau mewn perthynas â'r cyngor cymuned y mae'n gyfrifol amdano o dan adran 56(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

(1) 2004 p.21. (2) 1995 p.25 (3) O.S. 1990/1553 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1991/1389;O.S. 1993/1339;O.S. 1998/1918; ac O.S. 1999/500

Cyswllt i Rhan II - Darpariaethau Cyffredinol

yn ôl i'r brig