Addysg Gynnar i blant 3 oed yn Wrecsam

Oes gennych chi blentyn a fydd yn 3 oed rhwng 1af Medi a 31ain Mawrth? Os OES darllenwch ymlaen...

Mae cyllid ar gael i blant 3 oed yn Wrecsam dderbyn Addysg Blynyddoedd Cynnar yn y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed. I fod yn gymwys, mae’n rhaid i’ch plentyn droi’n dair oed cyn y tymor y disgwylir iddynt ddechrau a rhaid eu bod yn byw ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.

Gall eich plentyn gael lle mewn lleoliad ‘cymeradwy’ ar gyfer naill ai:

5 sesiwn yr wythnos, un y dydd, am 2 awr o hyd

NEU…

4 sesiwn yr wythnos, un y dydd, am ddwy awr a hanner o hyd.

Bydd hyn yn dibynnu ar yr hyn a ddarperir gan eich lleoliad dewisedig.

Caiff lleoliad a ariennir ei gymeradwyo i ddarparu Addysg Gynnar i blant 3 oed a gall fod yn un o’r canlynol:

  • Cylch chwarae
  • Meithrinfa ddydd breifat
  • Dosbarth meithrin neu Uned Blynyddoedd Cynnar mewn ysgol leol.

Gellwch wneud cais trwy gwblhau ffurflen dderbyniadau. Mae’r rhain ar gael o:

  • Leoliad a ariennir.
  • Adran Addysg Gynnar yng Nghanolfan Erlas, Ffordd Bryn Estyn, Wrecsam ar 01978 317666.
  • Derbynfa yn y Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc, 16 Stryt yr Arglwydd, Wrecsam neu
  • Yr Uwch Weinyddwr, Addysg Gynnar ar 01978 317666.

Gallwch wneud cais am le a ariennir mewn UN lleoliad yn unig. Mae arian yn mynd yn uniongyrchol at y lleoliad bob hanner tymor.

I blant sy’n cael eu pen-blwydd yn ystod tymor yr hydref (1af Medi - 31ain Rhagfyr), rhoddir cyllid am le dros 2 dymor - y gwanwyn a’r haf.

I blant sy’n cael eu pen-blwydd yn ystod tymor y gwanwyn (1af Ionawr - 31ain Mawrth) rhoddir cyllid am le dros 1 tymor - yr haf.

Rhaid i’r lleoliad sy’n derbyn cyllid:

  • gyflogi staff sydd â chymwysterau addas
  • gael archwiliad gan ESTYN
  • ddarparu’r sesiynau a nodir
  • dderbyn cefnogaeth athro/athrawes gymwys yn rheolaidd
  • gwblhau hyfforddiant addysg gynnar a ddarperir gan yr AALl.

Nid yw’r ffaith eich bod yn cael lle mewn lleoliad addysg gynnar yn golygu y cewch le mewn ysgol feithrin yn Wrecsam fel mater o drefn. Rhaid gwneud cais ar wahân am hyn yn defnyddio’r ffurflen dderbyniadau meithrin sydd ar gael ym mhob ysgol neu’r Adran Dderbyniadau yn 16 Stryt yr Arglwydd, Wrecsam.

Mae Wrecsam yn ymroddedig i roi’r dechrau gorau posibl i’n plant iau mewn Addysg drwy brofiadau dysgu o ansawdd, cyfannol a symbylol.

Dysgu trwy Chwarae

  • cael hwyl!
  • gwneud ffrindiau!
  • magu hyder!
  • darganfod gwybodaeth!
  • archwilio!
  • profiadau newydd!
  • datblygu annibyniaeth!
  • cwrdd â ffrindiau!

Am wybodaeth bellach, ffoniwch:
Desg Gymorth Addysg Gynnar: 01978 317666

yn ôl i'r brig