Os ydych yn dechrau busnes bwyd newydd neu’n cymryd busnes bwyd presennol drosodd, rhaid i chi gofrestru gyda ni (Cyngor Wrecsam, fel eich awdurdod lleol). Rhaid i chi roi gwybod i ni am unrhyw eiddo yr ydych yn eu defnyddio ar gyfer storio, delio, gwerthu, dosbarthu, paratoi neu goginio bwyd.

Os ydych yn bwriadu dechrau eich busnes newydd, rhaid i chi gofrestru o leiaf 28 diwrnod cyn i’r busnes ddechrau masnachu.

Pa fath o safle/busnes bwyd sydd angen cofrestru?

Pob math o fusnesau bwyd sy’n gwasanaethu cwsmeriaid yn uniongyrchol, gan gynnwys:

  • Tafarndai (hyd yn oed os ydych ond yn gwerthu alcohol a diodydd meddal) 
  • Bwytai 
  • Gwestai 
  • Caffis 
  • Siopau manwerthu
  • Archfarchnadoedd
  • Cantîn staff
  • Ceginau mewn swyddfeydd
  • Warysau
  • Tai llety/gwely a brecwast
  • Cerbydau arlwyo symudol (er enghraifft faniau cŵn poeth a hufen iâ)

Dylai cwmnïau sydd ynghlwm wrth ddosbarthu bwyd neu gyflenwi bwyd sy’n gweithredu o swyddfa, hefyd gofrestru fel busnesau bwyd. Mae hyn yn gymwys hyd yn oed os nad yw bwyd yn cael ei gadw ar y safle.

Cofrestru cerbyd symudol

Rhaid i gerbydau symudol gael eu cofrestru yn y cyfeiriad y cedwir y cerbyd dros nos. Os oes gennych fwy nac un cerbyd wedi’i storio yn yr un cyfeiriad, dim ond unwaith sydd angen cofrestru, ond rhaid i chi roi gwybod i ni sawl cerbyd a gedwir yn y cyfeiriad hwnnw.

Sut i gofrestru

Gallwch gofrestru eich busnes ar-lein.

Nid oes tâl am gofrestru bwyd ac ni ellir gwrthod cais cofrestru.

Ar ôl cyflwyno ffurflen gofrestru

Unwaith i chi gwblhau a dychwelyd eich ffurflen, bydd eich manylion yn cael eu rhoi yn ein cronfa ddata. Fel awdurdod lleol, rhaid i ni gadw cofnod o holl safleoedd bwyd sydd wedi cofrestru gyda ni.

Cydnabyddir eich ffurflen gofrestru a bydd aelod o’n Tîm Diogelwch Bwyd yn ymweld â’ch eiddo i gynnal archwiliad hylendid bwyd.

Rhaid i chi roi gwybod i ni os oes unrhyw newid i’ch busnes bwyd, megis gweithredwr busnes newydd neu os ydych yn rhoi’r gorau i fasnachu.

Cysylltu â’n Tîm Diogelwch Bwyd

Gallwch gysylltu â’n Tîm Diogelwch Bwyd am ragor o wybodaeth am gofrestru safle bwyd drwy anfon e-bost at foodandfarming@wrexham.gov.uk.

Dolenni perthnasol