Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Parc Gwledig Ty Mawr

 

Mae Ty Mawr yn cynnig holl hwyl y fferm yng ngolygfeydd anhygoel dyffryn Dyfrdwy. Gellwch gwrdd â llawer o anifeiliaid yn Nhy Mawr, megis mulod, moch a geifr. Gellwch hyd yn oed fwydo ein hieir buarth a'n hwyaid neu edmygu Lawrence y lama, sy'n amddiffyn ein defaid rhag llwynogod!

Nid ydym yn defnyddio cemegau na phlaladdwyr ar y tir yn Nhy Mawr. Dyma pam bo gennym rywogaethau lu o blanhigion gwyllt ac anifeiliaid a pham bo'r dolydd gwair traddodiadol yn llawn lliw yn yr haf. Beth am grwydro ar hyd yr afon, eistedd ac ymlacio i weld a ellwch weld eog yn neidio?!

Lleolir Ty Mawr mewn safle darluniaidd islaw traphont ddramatig Cefn Mawr ac ar lannau afon Dyfrdwy, ac mae'n darparu rhai o olygfeydd gorau'r ardal.

Teithiau Cerdded Iach

Beth am fynd am dro ar hyd lan yr afon i draphont ddwr Pontcysyllte, ar hyd Llwybr Treftadaeth Cefn neu ymuno â Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa?

Sut i gyrraedd y parc

Mae'n hawdd dod o hyd i'r parc a leolir pum milltir i'r de o Wrecsam ym mhentref Cefn Mawr. Wedi'i arwyddo fel 'Parc Gwledig' ger cyffordd Llangollen/Rhiwabon ar yr A483, dilynwch yr arwyddion brown a gwyn i'r parc.

Oriau agor

Mae'r parc ar agor trwy gydol y flwyddyn.

Mae'r Ganolfan Ymwelwyr ar agor:

Pasg i fis Medi - bob dydd rhwng 10.30am a 4.30pm
Mis Hydref i'r Pasg – ar benwythnosau'n unig.

Cyfleusterau

  • Maes parcio
  • Llwybrau ag arwyneb sydd â rhai llethrau
  • Grwpiau ysgol trwy drefnu ymlaen llaw
  • Toiledau (ar gyfer pobl anabl hefyd)
  • Sgyrsiau/teithiau tywysedig trwy drefnu apwyntiad
  • Addas ar gyfer grwpiau ar fws

Cysylltwch â

Parc Gwledig Ty Mawr
Lôn Cae Gwilym
Cefn Mawr
Wrecsam
LL14 3PT

Ffôn: 01978 822780
Ebost: countryparks@wrexham.gov.uk

 
English
 

Gwybodaeth i Dwristiaid

Parciau Gwledig
Strategaeth Cefn Gwlad
Newyddion
Gwasanaeth Cefn Gwlad
Parc Gwledig Melin y Nant
Parc Gwledig Mwynglawdd Minera
Parc Gwledig Dyfroedd Alun
Parc Gwledig Ty Mawr
Parc Gwledig Stryt Las
Llwybr Dyffryn Clywedog
Parciau Gwledig & Digwyddiadau
Teithiau Cerdded Iachus
Gwasanaethau Parciau
Dychwelyd i Dudalen Gynnwys Hamdden a Thwristiaeth
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint