Bu cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg ledled gogledd Cymru. Yn y ddegawd ddiwethaf bu i’r nifer godi o 33% i 40%. Roedd 13.4% o boblogaeth Wrecsam yn cyfrif eu hunain yn siaradwyr Cymraeg yng Nghyfrifiad 1991. Gofynnwyd cwestiwn mwy cyffredinol yng Nghyfrifiad 2001, a dangosodd hyn bod 22.9% o’r bobl leol yn meddu ar o leiaf un sgil yn yr iaith Gymraeg o’i gymharu â chyfartaledd Cymru sef 28.4%.
| Ardal | Adnabyddir fel Cymreig | Meddu ar un sgil neu fwy yn yr iaith Gymraeg | ||
|---|---|---|---|---|
| Nifer | % | Nifer | % | |
| Wrecsam | 12,065 | 9.4 | 28,401 | 22.9 |
| Conwy | 13,289 | 12.1 | 42,174 | 39.7 |
| Sir Ddinbych | 9,829 | 10.6 | 32,469 | 36.0 |
| Sir y Fflint | 8,662 | 5.8 | 30,660 | 21.4 |
| Gwynedd | 31,356 | 26.8 | 85,847 | 76.1 |
| Ynys Môn | 12,975 | 19.4 | 45,534 | 70.4 |
| Gogledd Cymru | 88,176 | 13.3 | 265,085 | 40.0 |
| Cymru | 417,820 | 14.4 | 797,717 | 28.4 |
Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol – Cyfrifiad 2001
Yng Nghyfrifiad 2001 roedd bron iawn i 1 o bob 7 o’r boblogaeth ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam yn gallu darllen Cymraeg. Roedd ychydig dros 1 o bob 8 yn gallu ysgrifennu Cymraeg ac ychydig dros 1 o bob 9 yn gallu darllen, ysgrifennu a siarad Cymraeg ac roedd gan 1 o bob 8 rhai sgiliau. Roedd gan oddeutu 4 o bob 5 o bobl dim sgiliau yn y Gymraeg.
| Gallu darllen % | Gallu ysgrifennu % | Dim sgiliau % | Rhywfaint o sgiliau % | Gallu darllen, ysgrifennu a siarad % |
|---|---|---|---|---|
| 14.82 | 12.32 | 77.10 | 12.00 | 10.90 |
Mae gan ychydig dros 2 o bob 5 o boblogaeth gogledd Cymru un sgil neu fwy yn y Gymraeg (yn ôl Cyfrifiad 2001). Yn Wrecsam mae’r gyfran ychydig dros 1 o bob 5. Mae’r ffigwr hwn yn uwch yng Ngwynedd ac Ynys Môn, sydd â’r cyfrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Yng Nghymru’n gyffredinol mae’r ffigwr ychydig dros 1 o bob 4.
| Math | Wrecsam | Gogledd Cymru | Cymru |
|---|---|---|---|
| Yr holl bobl | 128,476 | 641,286 | 2,805,701 |
| Un sgil yn y Gymraeg neu fwy | 28,401 | 265,085 | 797,717 |
| % | 22.1 | 41.3 | 28.4 |
Mae Cyngor Sir Wrecsam drwy ei Gynllun Iaith Cymraeg yn ceisio parhau i ymestyn y defnydd o’r iaith Gymraeg o fewn y gymuned a gwella’r ddarpariaeth o wasanaethau cyfrwng Cymraeg. Yng Nghyfrifiad 2001, Ponciau oedd â’r ddealltwriaeth fwyaf o’r Gymraeg ymysg ei drigolion. Roedd gan 49.92% o’r boblogaeth rhywfaint o ddealltwriaeth o’r iaith. Yn Nyffryn Ceiriog roedd gan 47% rhywfaint o ddealltwriaeth a 45% yn y Pant. Roedd gan yr ardaloedd sydd gerllaw'r ffin â Lloegr a Sir Caer yn arbennig Yr Orsedd (12%) a Holt (14%), lai o bobl gydag unrhyw ddealltwriaeth o’r Gymraeg er bod Queensway yn drydydd gydag ychydig yn llai na 15% yn meddu ar rywfaint o ddealltwriaeth o’r Gymraeg.
Cysylltiadau Defnyddiol |
|
| Mynegai Ystadegau Allweddol ar Gyfer Wrecsam | |