Mae’r Cyngor, fel yr Awdurdod Lleol (ALl), yn sicrhau y darperir addysg feithrin o fewn ystod o ysgolion. Gall fod yn addysg cyfrwng Saesneg, Cymraeg neu’n ysgol a gynorthwyir neu a reolir. Cynigir addysg feithrin ar sail 5 sesiwn o 2 ½ awr yr wythnos yn ystod y flwyddyn ysgol 2012/2013. Bydd y pennaeth yn rhoi gwybod i chi pa sesiynau fydd eich plentyn yn gallu eu mynychu cyn gynted â phosibl ar ôl i chi gael gwybod am le meithrin i’ch plentyn.
Os oes gan eich plentyn frawd neu chwaer hyn wedi eu cofrestru yn eich dewis ysgol eisoes, a fydd yn dal ar gofrestr yr ysgol pan fydd y plentyn iau’n bwriadu dechrau, nodwch hyn ar y ffurflen dderbyn, gan roi enw a dyddiad geni’r plentyn hyn.
Fe’ch atgoffir na ddarperir cludiant i blant oed meithrin ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol. Sylwer hefyd nad yw derbyn plentyn i ddosbarth meithrin mewn ysgol benodol yn gwarantu lle i’ch plentyn yn nosbarth derbyn yr ysgol honno.
Cwblhewch y ffurflen dderbyn a dychwelwch hi at bennaeth eich dewis ysgol feithrin, gynradd neu fabanod erbyn 20 Chwefror 2012. Gall yr Awdurdod Derbyn roi lle i dderbyn nifer benodol o ddisgyblion ym mhob ysgol feithrin a bydd yn derbyn hyd at y nifer derbyn safonol yn unig, dangosir y nifer hon yn y rhestr ysgolion yn y Canllaw Rhieni a Gofalwyr i Wasanaethau Addysg yn Wrecsam). Ystyrir yr holl geisiadau a dderbyniwn cyn y dyddiad cau hwn cyn y rhai a dderbyniwn ar ôl y dyddiad cau. Mae’n bwysig iawn felly eich bod yn bodloni’r terfyn amser y cyfeirir ato uchod.
Amlinellir meini prawf dyrannu lleoedd yr Awdurdod Derbyn yn y Canllaw Rhieni a Gofalwyr i Wasanaethau Addysg yn Wrecsam. Mae copïau ar gael o ysgolion yr Awdurdod, ei swyddfeydd ac, at ddibenion cyfeirio, mewn llyfrgelloedd cyhoeddus.
Os ydych wedi mynegi dewis am ysgol gymunedol, feithrin, gynradd neu ysgol a reolir, bydd eich cais yn cael ei ystyried gan yr ALl. Os ydych wedi mynegi dewis am ysgol Babyddol neu ysgol a gynorthwyir gan yr Eglwys yng Nghymru, bydd eich cais yn cael ei ystyried gan gorff llywodraethol yr ysgol honno.
Bydd yn cymryd peth amser i gwblhau’r broses ddyrannu ond byddwch yn cael gwybod erbyn 20 Ebrill 2012 p’un a roddwyd lle i’ch plentyn yn eich dewis ysgol feithrin ai peidio.
Er bydd yr Awdurdod Derbyn yn ystyried dewisiadau rhieni wrth ddyrannu lleoedd, dylech gofio nad oes gennych hawl ffurfiol i apelio yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod i beidio â rhoi lle i’ch plentyn yn yr ysgol honno.
Os teimlwch fod amgylchiadau arbennig y dymunwch dynnu sylw’r Awdurdod atynt, nodwch y rhain ar y ffurflen. Os oes gan eich plentyn anabledd a allai effeithio ar ei g/chynnydd yn yr ysgol, nodwch hyn ar y ffurflen.
Os oes gan eich plentyn ddatganiad o angen addysgol arbennig, bydd yr ALl, yn gwneud ei orau i ganiatáu eich dewis ysgol feithrin ond rhaid iddo fod yn sicr y gall yr ysgol fodloni anghenion eich plentyn yn llawn. Ar ôl i’r Awdurdod dderbyn eich ffurflen, bydd Swyddog yr Awdurdod Lleol yn ysgrifennu atoch ac mae’n bosibl y bydd am drefnu cyfarfod i drafod addysg feithrin eich plentyn.
Os bydd eich amgylchiadau’n newid ac os bydd angen i chi newid eich dewis ond rydych wedi dychwelyd y ffurflen dderbyn, ffoniwch y Swyddfa Derbyniadau ar 01978 297505.
Gweld rhestr o ysgolion o’n Cronfa ddata ysgolion >>
Gellir lawrlwytho'r Pecyn Derbyniadau Iau yn y ffurfiau canlynol:
Pecyn Derbyniadau Meithrin - Fformat Word 169Kb ![]()
Pecyn Derbyniadau Meithrin - Fformat PDF 131Kb ![]()
Pecyn Derbyniadau Meithrin - Fformat Testun Plaen 1.2Mb ![]()
|
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |
16 Stryt yr Arglwydd
Wrecsam
LL11 1LG
Ebost: A&T@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 297505
Wyneb yn wyneb:
16 Stryt yr Arglwydd
Wrecsam